institute of coding logo with the technocamps logo

Amdanom

Y Sefydliad Codio yng Nghymru yw cangen fusnes Technocamps, sy’n gweithio gydag unigolion 16 oed a hŷn. Mae ein rhaglenni, gan gynnwys cyrsiau byr, bŵtcamps sgiliau (micro-gymwysterau), a phrentisiaethau gradd, wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau technoleg a gwella cyfleoedd gyrfa. Drwy fynd i’r afael ag anghenion dechreuwyr a dysgwyr uwch, rydym yn darparu llwybrau hygyrch sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol ar bob lefel, gan roi’r sgiliau angenrheidiol i gyfranogwyr i ffynnu yn yr economi ddigidol sy’n datblygu.

Cyrsiau Byrion


Nod cyrsiau byr yw gwella eich sgiliau technoleg. Maent yn berffaith ar gyfer dysgu pynciau newydd ac ennill sgiliau gwerthfawr a all roi hwb i'ch gyrfa a datgloi cyfleoedd newydd.

Cyrsiau Sgiliau


Mae bŵtcamps sgiliau (micro-gymwysterau) yn berffaith os ydych am uwchsgilio, ailsgilio neu ailhyfforddi. Mae'r cyrsiau datblygiad proffesiynol rhad ac am ddim hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i feithrin sgiliau a gwybodaeth galw uchel i'ch helpu i symud ymlaen.

Gradd Prentisiaeth


Mae'r BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol yn ffordd arloesol i unigolion ennill gradd tra mewn cyflogaeth. Mae'r cwrs yn agored i weithwyr cwmnïau a sefydliadau rhanbarthol, ac fe'i cyflwynir ar gampws y Brifysgol ar ddydd Mercher.

Ein Partneriaid

We work closely with lots of big and small organisations, and some even support us via our Industry Advisory Panel. These currently include TATA Steel, Nhŷ'r Cwmnïau, y DVLA, ONS, NWIS, DevOps Group, Blue Prism, Cydweithio. 

You can also support Technocamps via our Steering Group, which currently includes BBC Wales, Qualifications Wales, Prodigy Learning, Big Learning Company, Theatr Na Nog, Swansea Council and NPT Council.

We would love to work with you! Cysylltwch â ni! if you would like to see how we can work together.