Tîm Prifysgol Bangor
Mae Technocamps yn rhan o Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor
Mae Technocamps yn rhan o Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor
Mae Sa’ad yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei arbenigedd yn bennaf wrth fodelu a dadansoddi systemau cymhleth, a rhwydweithiau cyfrifiadurol.
Mae llawer o bwyslais ei waith wedi bod ar fodelu adrannol a chymhwyso technegau mewn dynameg system, systemau aflinol, a theori rheoli. Perfformiwyd ei ymchwil mewn cydweithrediad agos â grwpiau ymchwil academaidd a diwydiannol ledled Ewrop. Mae wedi bod yn ymwneud â Technocamps ers ei greu.
Alex yw Cydlynydd Rhanbarthol Technocamps ym Mhrifysgol Bangor ac mae'n gyfrifol am gyflwyno a rheoli gweithgareddau Technocamps yng ngogledd Cymru.
Mae wedi gweithio yn y diwydiant TG ac fel arweinydd cwricwlwm mewn addysg uwchradd. Mae ei swyddi cenedlaethol a rhanbarthol diweddaraf wedi cynnwys cefnogi ysgolion gyda 'Hwb' – y llwyfan dysgu digidol cenedlaethol, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a'r rhaglen 'Cracio'r Côd'. Mae gan Alex ddiddordeb penodol mewn defnyddio cyfrifiadura ffisegol i annog pobl ifanc i astudio Cyfrifiadureg a phynciau STEM.
Mae Dave yn rhedeg canolfan ranbarthol Technocamps ym Mangor ac yn cydlynu agweddau o ddydd i ddydd ar y prosiect, o ddatblygu modiwlau i gynnal gweithdai.
Mae Dave yn wyddonydd brwd ym maes cyfrifiadureg a’i brif ddiddordebau yw dulliau traws-ddisgyblaethol o ddatrys problemau ac ailddefnyddio hen dechnoleg mewn cymwysiadau newydd.
Mae gan Lois radd mewn Mathemateg o Brifysgol Abertawe, ac mae hi hefyd yn athrawes gymwysedig. Mae ganddi brofiad helaeth o ddysgu mathemateg a chyfrifiadureg i ddisgyblion ysgolion uwchradd, ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.
Tu hwnt i'r gwaith, mae Lois yn mwynhau cerdded a chwisiau yn y dafarn.