Modelau Rôl


Rydym yn teimlo'n angerddol ynglŷn ag annog pobl ifanc (yn enwedig merched) i mewn i'r maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Cydnabyddir yn eang fod menywod yn cael eu tangynrychioli yn y diwydiannau STEM, ac rydym yn anelu at unioni'r cydbwysedd. Mae ein rhaglen GiST yn un lle mae Menywod ym maes STEM yn siarad â merched ysgol am eu gyrfaoedd, ac yn arddangos y cyfleoedd sy'n agored iddynt.

Os hoffech fod yn Fodel Rôl, anfonwch neges e-bost i info@technocamps.com. comms@technocamps.com.

Image

Wendy Dearing

Deon y Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd yn PCYDDS

Mae Wendy yn nyrs yn ôl ei chefndir, yn Gymrawd i'r BCS ac yn Ymarferydd Arweiniol i'r Ffederasiwn Gweithwyr Gwybodeg Proffesiynol. Mae ganddi MSc mewn Newid ac Arloesi, a dyfarnwyd Cadair Athro Anrhydeddus iddi o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Dyfarnwyd y Gadair Athro mewn Ymarfer Cymhwysol iddi i gydnabod arbenigedd a gwybodaeth Wendy wrth hyrwyddo proffesiynoldeb ym maes technoleg a gwybodaeth.

Ei rôl newydd fel Deon yw arwain y Sefydliad ym meysydd iechyd, gofal a digidol, a than yn ddiweddar roedd yn Bennaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol ar gyfer Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Roedd ei rôl yn cynnwys cynllunio, recriwtio a chadw'r gweithlu; cydnabyddiaeth a chofrestru proffesiynol; addysg a hyfforddiant; llwybrau gyrfa a DPP. Hi yw Cadeirydd BCS Wales Health ac Is-gadeirydd Proffesiynoldeb, ac mae ganddi ddiddordeb angerddol mewn datblygu'r “genhedlaeth nesaf”, yn ogystal â datblygu proffesiynoldeb ledled gwybodeg iechyd.

Image
Image

Laura Blackwell

Uwch-ddadansoddwr Seiberddiogelwch, Simply Business
 
Ar hyn o bryd mae Laura'n gweithio mewn cwmni yswiriant yng nghanol Llundain. Cafodd ei dyfarnu'n Arweinydd Seiberddiogelwch 2020 yng ngwobrau Future Stars of Tech am ei chyfraniad i'r sefydliad, a hefyd i'r gymuned STEM. Mae ganddi BSc (Anrh) o Brifysgol Swydd Gaerloyw, ymhlith amryw o gymwysterau yn ei sector, er enghraifft Gweithiwr Proffesiynol Ardystiedig Diogelwch Systemau Gwybodaeth (CISSP) a Thriniwr Digwyddiadau Ardystiedig (GCIH) GIAC.
 
Mae Laura'n arbenigo mewn Rheoli Bregusrwydd, sy'n cynnwys dod o hyd i ffyrdd y gellir manteisio ar gyfrifiaduron a'u datrys. Mae'n credu na ddylai Diogelwch fod yn foethusrwydd drud ac anghyraeddadwy y mae'n rhaid ei brynu gan werthwyr a chontractwyr – dylai fod yn rhywbeth sy'n cael ei addysgu i bobl ledled pob agwedd ar Dechnoleg, fel y gallant adeiladu pethau'n ddiogel eu hunain.

 

Beth Fitzpatrick

Peiriannydd Systemau yn Atkins

Beth works as a Systems Engineer at a consultancy, after graduating with a Physics degree. She has worked across industries including Defence, Aerospace and Technology, is currently working in Defensive Cyber with a Machine Learning and Data Science team and is a member of the IOP's Women in Physics Group.

Mae Beth wrth ei bodd ag amrywiaeth ei swydd, bod pob diwrnod yn wahanol, a'i bod yn cymryd rhan mewn prosiectau cymhleth mawr sydd weithiau'n rhychwantu'r byd. Roedd hyn wedi cynnwys gweithio yn yr Almaen am chwe mis, yn adeiladu cerbydau arfog ar gyfer Byddin Awstralia!

Mae am chwalu'r myth fod pynciau STEM yn golygu eistedd wrth ddesg yn edrych ar rifau. Mae wrth ei bodd yn ennyn diddordeb mewn STEM, ac mae'n arwain presenoldeb cenedlaethol ei chwmni gyda'r elusen Teentech, gan gydlynu gwirfoddolwyr i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

Gwybodaeth am Grŵp Menwyod mewn Ffiseg IOP
Image

Nicole Ponsford

Cyd-brif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd The Gender Equality Collective

Mae Nicole yn arweinydd meddwl ym maes addysg a thechnoleg, yn awdur Harvard (TechnoTeaching), yn athro arobryn, yn Gymrawd yr RSA, yn feirniad Edtech50 ac yn aelod o Fwrdd Cynghori Edtech UK. Mae Nicole hefyd yn cyfrannu'n aml at TES, The Guardian, Innovate My School a Teachwire, ac mae'n brif siaradwr ac yn banelwr, a hynny'n fwyaf diweddar yn BETT20 ac ar gyfer yr RSA.

Mae Nicole yn credu mai technoleg yw'r cyfartalwr mawr ar gyfer ein hoes. Mae wedi bod yn addysgu technolegau newydd yn y sector addysg (o'r Blynyddoedd Cynnar i oedolion) ers 20 mlynedd, gan weithio gydag amrywiaeth o elusennau a sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol i gefnogi #TechErBudd. Mae'n teimlo'n angerddol ynghylch amrywiaeth a chynwysoldeb ar-lein ac all-lein, ac mae'n credu mai dim ond trwy gydweithredu, sgwrsio a gweithredu ar unwaith y bydd hyn yn digwydd. Mae'n credu ei bod yn hen bryd #ChwaluStereoteipiau.

Mae Nicole hefyd yn aelod o'r Grŵp Llywio ar gyfer MITEY (Dynion yn y Blynyddoedd Cynnar). Dechreuodd Ddoethuriaeth yn 2018 sy'n ymchwilio i'r gogwydd mewn addysg. on the Steering Group member for MITEY (Men in the Early Years). She started a Doctorate in 2018 researching the bias in education.

Cat Wildman

Mam i 3 phlentyn a Sylfaenydd The Global Equality Collective
 
Astudiodd Cat wyddoniaeth trwy gydol ei haddysg, gan ennill gradd mewn Gwyddorau Biofeddygol a Ffisiolegol. O'r fan honno, aeth hi i mewn i Dechnoleg a daeth hi o hyd i'w chartref. Mae Cat yn ysgrifennu ac yn siarad o fewn digwyddiadau ar ei hoff bynciau; cynnyrch digidol, busnesau newydd, rhieni sy'n gweithio a phopeth sy'n ymwneud ag Amrywiaeth Ecwiti/Cydraddoldeb a Chynhwysiant. 
 
Pan ddaeth hi'n gyflogwr, sylweddolodd Cat fod problem gyda gwahaniaeth rhywedd mewn technoleg, yn benodol wrth recriwtio, ond pan ddaeth hi'n fam, sylweddolodd fod ganddi gyfrifoldeb personol i ddefnyddio ei sgiliau a'i phrofiad i newid pethau. Penderfynodd Cat gysegru gweddill ei gyrfa i dorri ar draws stereoteipiau rhyw, gan greu offer digidol a hyfforddiant i helpu sefydliadau ac ysgolion i sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Lansiwyd ap cyntaf y GEC ym mis Medi 2020. 
 
Yn berson cynnyrch arobryn, enwyd Cat yn Fenyw y Flwyddyn gan y Telegraph yn 2018, a oedd hefyd y flwyddyn fe wnaeth hi gwrdd â Nic Ponsford ac fe wnaethant gyd-sefydlu The GEC. Enwyd Cat yn BIMA100 2020 ac fe’i henwyd yn Arweinydd Amrywiaeth a Chynhwysiant Byd-eang yn 2020.
Image

Rajinder Kaur

Peiriannydd UI gyda Directline Group

Mae rôl Rajinder yn cynnwys ysgrifennu cod ar gyfer nodweddion gweledol yr apiau gwe a ddefnyddir gan y timau gwasanaethau cwsmeriaid. Mae hi'n mwynhau ei swydd am ei hagweddau creadigol, cydweithredol a datrys problemau ac am y cyfle y mae'n ei gynnig i barhau i ddysgu. 

Mae ganddi BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura a TG o'r Brifysgol Agored. Ar ôl graddio, gwnaeth fŵtcamp codio 12 wythnos gan y Northcoders i gael y sgiliau a'r profiad i ddilyn ei gyrfa fel peiriannydd meddalwedd. 

Cyrhaeddodd Rajinder restr fer Gwobr Sêr Datblygwr Technoleg y Dyfodol yn 2020. Mae hi'n Llysgennad BAME ar gyfer Directline Group ac yn Llysgennad STEM. 

Cred Rajinder ei bod yn hanfodol mynd i'r afael â'r bwlch rhwng y rhywiau a diffyg amrywiaeth mewn technoleg. Mae hi am ysbrydoli ac annog merched a menywod ifanc o bob cefndir i ystyried gyrfa mewn technoleg. Mae hi'n credu y bydd dod i gysylltiad â gwahanol lwybrau gyrfa a deall y gwahanol rolau mewn technoleg yn ifanc yn helpu i gael gwared ar yr ystrydebau niferus ynglŷn â'r diwydiant technoleg.

Kat Cauchi

Rheolwr Ymgysylltu Cymunedol, Rheolwr Cynnyrch ReallySchool, Golygydd Cylchgrawn R.I.S.E., Gwesteiwr Podlediad Of Primary Importance ac Aelod o'r Global Equality Collective

Mae Kat yn gyn-athrawes ysgol gynradd ac mae'n frwdfrydig am gau'r
bwlch rhwng y rhywiau yn STEM. Fel menyw sy'n gweithio ym maes technoleg,
mae'n teimlo ei bod ei chyfrifoldeb hi yw helpu. Mae hi wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau panel, gweminarau a digwyddiadau eraill gyda'r Global Equality Collective.

Mae Kat yn falch o weithio i gwmni sy'n ymwneud â'i gymuned addysg leol, gan ddarparu meddalwedd am ddim i ysgolion a gyda staff sy'n gweithio yn y maes addysg. Yn 2021 lansiodd NetSupport R.I.S.E., cylchgrawn addysgol am ddim sy'n cefnogi'r gymuned addysg a'r lleisiau yn y sector addysg i ysbrydoli a grymuso. Mae podlediad Kat, Of Primary Importance, yn archwilio materion cynradd ac EYFS gyda gwahanol westeion a phynciau bob pythefnos.

Mae Kat yn gweithio'n agos gyda'r ysgol y bu'n addysgu ynddi. Mae wrth ei bodd yn cael y cyfle i gefnogi Technocamps gan ei bod yn credu ei bod yn hanfodol i bobl ifanc allu cyrchu cynifer o gyfleoedd â phosibl i'w paratoi ar gyfer y dyfodol.

Image

Rituja Rao

Mae Rituja Rao yn Ymgynghorydd TG arobryn ac yn arweinydd meddwl yn niwydiant Technegol y DU sydd â chefndir mewn gwasanaethau Ariannol, Trawsnewid Digidol a Rheoli Newid. Rituja yw Enillydd Gwobr Future Stars of Tech: Rheolwr TG 2020 a Gwobr TechWomen100 gan We Are The City, ac fe’i henwebwyd yn Arwr Digidol y Flwyddyn yng Ngwobrau Technoleg Ddigidol Gyfrifiadura yn 2019.

Mae hi'n ymgynghorydd technoleg a Rheolwr Prosiect, ac mae wedi llwyddo i gyflawni prosiect trawsnewid digidol gwerth £1 miliwn i weithredu Azure Cloud a fframwaith DevOps ar gyfer cleient bancio. Mae hi hefyd wedi cyflwyno sawl prosiect ar gyfer Lloyds, Barclays a HSBC - yn amrywio o gynhyrchion newydd, optimeiddio prosesau a thrawsnewidiadau digidol. Mae Rituja yn siaradwr cyhoeddus yn y diwydiant, gan siarad am yrfaoedd graddedig mewn technoleg, D&I a Rheoli Gyrfaoedd. Mae hi'n eiriolwr cryf dros amrywiaeth sgiliau mewn sefydliadau technoleg.

Ar hyn o bryd mae Rituja yn mentora pobl ifanc eraill, ac yn Fentor ar Ap Cajigo a llwyfannau eraill, gan rymuso merched ifanc i ddilyn gyrfa mewn Technoleg. Mae hi'n Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Bwrdd ar gyfer elusen Being Woman UK. Derbyniodd Rituja Fwrsariaeth Menywod ar Fyrddau 2020, ac mae'n archwilio ei gyrfa yn y Bwrdd.

Ei menter ddiweddaraf yw sianel a chymuned YouTube o'r enw Gen-We - sy'n canolbwyntio ar amrywiaeth sgiliau ac iechyd meddwl yn ystod gyrfaoedd cynnar.

 

Gwylia fideo Rituja

Freya Davies

Rheolwr Cyflenwi Hyblyg Made Tech a Llywodraethwr Ysgol

Mae Freya yn Rheolwr Cyflenwi Hyblyg yn Made Tech a'i bwriad yw galluogi sefydliadau'r sector cyhoeddus i ddod yn ddigidol. 

Astudiodd Freya bynciau STEM trwy gydol ei haddysg, gan ennill gradd mewn Daeareg Gymhwysol. Wedyn, aeth hi i mewn i dechnoleg gan astudio ar gyfer ei Diploma mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae Freya wedi treulio 20 mlynedd mewn rolau technoleg, gan ddod yn gyfarwyddwr i gwmni technoleg lleol yn 2018 cyn cymryd ei harbenigedd i'r sector cyhoeddus. 

Mae Freya yn frwdfrydig am gael effaith gadarnhaol ar ddyfodol y wlad trwy ddefnyddio technoleg i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc, y gymuned ac addysg STEM. 

Mae Freya yn Llysgennad STEM HUB Cymru ac yn Llywodraethwr Ysgol lleol. Trwy'r rolau hyn a chefnogi Technocamps, mae Freya yn bwriadu goleuo amrywiaeth mewn gyrfaoedd technoleg a chodi proffil STEM mewn ysgolion. 

Image
Lorna Bolton

Lorna Bolton

Cyfarwyddwr ar y tîm Contractau Masnachol ac IP, a Phennaeth Swyddfa Bryste Greenaway Scott.

Astudiodd Lorna radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe cyn mynd ymlaen i ennill ei LPC. Mae hi bellach yn arbenigo mewn darparu gwasanaethau cyfreithiol contract masnachol i fusnesau gwyddoniaeth a thechnoleg ’yn y cwmni cyfreithiol Greenaway Scott.

Yn ei rôl, mae Lorna yn delio â chytundebau masnachol cymhleth ar gyfer cleientiaid ac yn goruchwylio hyfforddeion a'r tîm masnachol mewn sefydliad lle mae'r staff yn fenywaidd yn bennaf.

Gwylia fideo Lorna

Fran Moore

Peiriannydd Meddalwedd Technegol Arweiniol

Mae Fran yn gweithio fel peiriannydd meddalwedd technegol arweiniol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr adran Cyhoeddi Digidol sy'n gofalu am y wefan ONS.gov.uk Mae'r prosiect y mae'n helpu i'w gyflawni ar hyn o bryd yn paratoi'r wefan i ganiatáu cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 y flwyddyn nesaf.

Mae ganddi hanes gyrfa o 20 mlynedd mewn datblygu meddalwedd, a ddechreuodd gyda phrentisiaeth gyda Systemau Data Electronig lle aeth ymlaen i rolau datblygwr meddalwedd yn Llywodraeth Cymru a'r DVLA.

Wrth weithio fel Datblygwr Meddalwedd i Lywodraeth Cymru, astudiodd Fran am ei gradd mewn Cyfrifiadura a Systemau Gwybodaeth yn rhan-amser yn UWTSD yn Abertawe gan ennill anrhydeddau dosbarth cyntaf. Ar hyn o bryd, mae hi'n astudio rhan amser ar gyfer ei MSc mewn Cyfrifiadura gyda'r Brifysgol Agored.

Image
Image

Gwen Parry-Jones OBE

Prif Swyddog Gweithredol Magnox Ltd

Gwen Parry-Jones yw Prif Swyddog Gweithredol Magnox Ltd a Llywydd y Sefydliad Niwclear. Ers cychwyn fel ffisegydd adweithydd ym 1989, mae Gwen wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau ledled y byd, gan gynnwys British Energy ac EDF Energy. Yn 2008, hi oedd cyfarwyddwr adweithydd niwclear masnachol benywaidd cyntaf y DU, a hi yw'r unig fenyw o hyd i fod â'r rôl hon.

Mae Gwen hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg ac yn frwdfrydig am gydraddoldeb rhywiol a chynrychiolaeth gyfartal mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Derbyniodd ac OBE am ei gwasanaethau i Wyddoniaeth a Thechnoleg yn 2015.

Oceanne Esparcieux

Uwch Ddylunydd Rhyngweithio yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Yn 29 oed, roedd Oceanne eisiau newid gyrfa o rolau gweinyddol a dechreuodd brentisiaeth ddigidol 2 flynedd yn Nhŷ’r Cwmnïau. O fewn 7 mis, cafodd ei chyflogi'n fewnol fel dylunydd rhyngweithio a'i dyrchafu i swydd uwch dey flynedd yn ddiweddarach. Nid oedd ganddi unrhyw brofiad o godio nac arferion ystwyth wrth ddechrau’r brentisiaeth, ond mae bellach yn rhan feunyddiol o’i rôl.

Mae Oceanne yn dylunio prototeipiau o wefannau'r llywodraeth gan ddefnyddio ieithoedd codio amrywiol. Mae hi'n gweithio'n agos gydag ymchwilwyr defnyddwyr i adeiladu a phrofi'r prototeipiau cyn gweithio gyda datblygwyr mewn timau sgrym i wneud yn siŵr y gall y syniadau ddod yn realiti. Mae hyn yn golygu gwneud fersiynau MVP o wefannau yn gyflym, sicrhau bod y gwasanaethau'n bodloni meini prawf hygyrchedd, a helpu gyda marcio pen blaen.

Image
Beth Jenkins

Beth Jenkins

Archwiliwr Fforensig Digidol

Mae gan Beth BSc (Anrh) mewn Fforensig Cyfrifiadurol ac MSc mewn Seiberddiogelwch, ar ôl cwblhau dau brosiect traethawd hir (un ar ISO 17025 ac un ar ISO 17020) a gafodd ganmoliaeth gan y Swyddfa Gartref am fod yn arloeswr yn y diwydiant. Llwyddodd hefyd i gyrraedd rownd derfynol Myfyrwyr Seiber Cenedlaethol y Flwyddyn yn 2021 yn y Gwobrau Seiber Cenedlaethol a chyflwynodd hi yn Fforwm Arbenigwyr Fforensig Europol yn 2021 arm ISO 17020.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Archwiliwr Fforensig Digidol, ond bydd yn symud i rôl Arbenigwr Ansawdd Fforensig eleni.
Mae Beth yn frwdfrydig am annog y genhedlaeth iau i mewn i STEM ac mae wedi gweithio’n helaeth gyda Phrifysgol De Cymru ar y mater hwn. Roedd hi hyd yn oed yn rhan o Academi STEM Technocamps yn 2021!

Dr Jennifer Harris

Cyfarwyddwr Polisi Ymchwil yn ABPI

Jennifer yw Cyfarwyddwr Polisi Ymchwil Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) yn y DU, lle mae’n arwain ar wneud y DU y lle gorau i ymchwilio a datblygu meddyginiaethau a brechlynnau newydd. Cyn hynny, bu Jennifer yn gweithio yn Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU ar yr Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl lle bu’n arwain ar gynhyrchu tystiolaeth a chynnwys cleifion. 

Mae gan Jennifer PhD ac MPhil mewn ymchwil feddygol o Brifysgol Caergrawnt a BSc mewn Gwyddorau Biofeddygol o Brifysgol Plymouth. Mae hi’n credu mewn dulliau gwyddonol a llunio polisïau ar sail tystiolaeth ac mae’n eiriolwr dros gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil a chyfleoedd cyfartal ar gyfer gyrfaoedd STEM.

Image
Image

Jo Goodwin

Pennaeth Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

Jo is passionate that public services should be fully inclusive and accessible. Jo works at the Centre for Digital Public Services in Wales as Head of User Centred Design. She has previously led complex digital programmes in local and central government. Prior to joining CDPS, Jo was Head of Delivery for the Welsh Local Government Association. She has also led digital projects and programmes in Content Design London, the Office for National Statistics and Monmouthshire County Council. She is excited to be working with people across Wales to continuously improve public services for the people who live and work in, and visit, Wales.

Hazel May Lockhart-Jones

Meistr Sgrymiau, Arweinydd Technegol, Uwch Ddatblygydd Meddalwedd

Mae Hazel yn feistr sgrymiau ac arweinydd technegol mewn gwyddoniaeth data poblogaeth yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Mae rôl Hazel yn cynnwys llawer o wahanol agweddau technegol fel arwain seremonïau sgrymiau, arwain prosiectau ac ysgrifennu cod a chefnogi'r tîm datblygu.

Mae Hazel wedi cyfrannu ar ddau brosiect mawr yn ystod ei hamser yn yr adran wyddoniaeth data poblogaeth: Cofrestr MS y DU, astudiaeth arloesol a ddyluniwyd i gynyddu dealltwriaeth o bobl sy'n byw gydag MS yn y DU; a LLC Cydweithrediad Cyswllt Hydredol y DU, sydd wedi'i sefydlu i ddod â gwybodaeth gan wirfoddolwyr astudiaeth hydredol ynghyd â'u cofnodion arferol. Mae gan Hazel BSc mewn amlgyfrwng, PGC mewn gwyddor data iechyd ac mae'n astudio ar gyfer MSc mewn rheoli technoleg.

Image