Mae roboteg yn dod yn fwyfwy cyffredin yn ein bywydau o ddydd i ddydd, yn gallu cyflawni tasgau dim ond bodau dynol oedd medru yn y gorffenol. Mae Technocamps yn cynnal Cystadleuaeth Roboteg Genedlaethol Cymru gan ddefnyddio LEGO Mindstorm neu Spike, Arduino, neu unrhyw galedwedd roboteg arall sydd ar gael gennych. Bydd y gystadleuaeth yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm, yn ogystal â’u gwybodaeth am gyfrifiadureg mewn ffordd hwyliog a dyfeisgar.
Yr her yw dylunio a chreu robot sy'n gallu mynd i'r afael â heriau bywyd gwyllt a chadwraeth. Meddyliwch sut y gellid ei gynllunio i guro ei gystadleuwyr. Creadigrwydd yw'r allwedd! Rhaid i'ch tîm ddod o hyd i ddyluniad gwreiddiol ar gyfer eich robot, yna ei ddatblygu a'i brototeipio, yn barod i'w gyflwyno yn rownd derfynol y gystadleuaeth.
Bydd y rownd derfynol hefyd yn cynnwys her FYW - bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi yn y digwyddiad. Bydd yr her hon yn cynnwys addasu eich robot; er enghraifft, efallai y bydd angen newid y cyflymder y mae'n symud neu ychwanegu nodweddion fel dull o godi, symud, neu wthio gwrthrych. Bydd pob tîm yn cael amser yn ystod y dydd i gynllunio ac addasu eu robot, yn barod i gystadlu yn erbyn ceisiadau eraill y gystadleuaeth.
Rydym wedi darparu rhestr o fanylebau yr ydym yn argymell bod eich robot yn cwrdd â nhw i gystadlu yn y Gystadleuaeth Roboteg. Yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth, gall eich tîm cyfan gyfrannu at ddatblygiad eich robot. Fodd bynnag, ar gyfer rownd terfynol y gystadleuaeth, rhaid i chi enwebu tîm o 3-6 o bobl. Mae'n bwysig bod hwn yn grŵp gallu cymysg a rhyw. Bydd Technocamps yn benthyca citiau robot LEGO Spike i dimau sy'n cystadlu (os oes angen).
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich citiau, gallwch ddechrau dylunio, adeiladu a phrofi eich robotiaid. Peidiwch â phoeni, byddwn ni yma i’ch cefnogi gyda’ch datblygiad robotiaid trwy ddarparu gweithdai hyfforddi yn eich ysgol gyda’ch dosbarth os dymunwch.