Sut i Wneud yn siŵr eich bod chi'n Seiberddiogel

adminBlog, Newyddion

[Blog gan Swyddog Addysgu Technocamps, Olga Petrovska]

Ydych chi'n cofio amser pan oedd clywed “Mae gennych chi e-bost” yn achosi gorfoledd? I ddefnyddwyr y rhyngrwyd heddiw, mae hynny'n teimlo braidd yn swrrealaidd, ac eto roedd yn realiti ryw 20 mlynedd yn ôl.

Gyda datblygiad technoleg, mae ein syniad o arlein yn cael ei ailddiffinio'n barhaus. Meddyliwch faint o amser rydych chi'n ei dreulio yn gysylltiedig y dyddiau hyn yn ateb e-byst, galwadau fideo, neu'n sgrolio trwy'ch hoff ap cyfryngau cymdeithasol. Dim ond blaen y mynydd iâ yw'r gweithgareddau hyn, sef y Rhyngrwyd fodern.

Yn ôl Datareportal, cyrhaeddodd y nifer o ddefnyddwyr gwe 4.66 biliwn o bobl ledled y byd yn Ionawr 2021. Ar yr un pryd, mae'r ystod o ddyfeisiau sy'n gallu cysylltu â'r Rhyngrwyd yn tyfu bob dydd. Mae'r ffin rhwng y byd go iawn a byd ar-lein rhwydweithiau cyfrifiadurol yn dechrau cymylu, ac mae'r pryderon diogelwch anochel yn dod i'r blaendir.

P'un a ydych chi'n unigolyn sy'n poeni am breifatrwydd eich data, neu'n fusnes sydd am osgoi toriadau diogelwch, dyma 3 chwestiwn yr hoffech chi efallai eu gofyn:

  1. Sut mae hyn yn effeithio arnaf i?

Mae ein bywydau nawr yn cael eu nodweddu gan symudiad seismig tuag at y byd digidol: rydym yn cyfathrebu trwy apiau negeseuon, rydym yn postio diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol, rydym hyd yn oed yn llenwi ffurflenni treth ar-lein. Mae'r gweithgaredd hwn yn arwain at ôl-troed digidol. Mae llawer o'n gwybodaeth breifat yn cael ei storio ar-lein mewn un ffordd neu'r llall, p'un a ydym wedi ei rhannu'n weithredol, neu a gafodd ei chasglu heb i ni wybod.

Er y gall y cyflymder yr ydym yn cofleidio ac yn addasu i dechnolegau newydd fod yn glodwiw, nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu yn ein ymwybyddiaeth o seiber ddiogelwch. Yn ôl Adroddiad Online Nation 2020, dim ond 62% o oedolion y DU sy'n ymwybodol bod gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn casglu eu gwybodaeth, a dim ond 59% sy'n ymwybodol bod gwybodaeth hefyd yn cael ei chasglu trwy gofrestriadau, ac ar ben hynny dim ond 55% sy'n ymwybodol y gellir casglu gwybodaeth trwy apiau ffôn. Mae'r ffigur olaf yn frawychus, o ystyried y duedd gynyddol yn y defnydd o ddyfeisiau symudol.

O safbwynt busnes, heb os, mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar ein hymglymiad mewn gweithgareddau ar-lein. Mae nifer y bobl sy'n gweithio o bell wedi cynyddu'n aruthrol dros y cyfnod hwn. Gall gweithwyr o bell gyrchu data sensitif cwmnïau gan ddefnyddio eu dyfeisiau personol, neu gysylltu â rhwydweithiau nad ydynt yn ddiogel. Gall toriadau diogelwch arwain at golled ariannol sylweddol a niwed i enw da cwmniau.

2. Pam ei bod hi'n bwysig amddiffyn fy hun?

Mae gwybodaeth yn ased. Mae'n bosibl y gallai data rydych chi'n ei rannu ar-lein neu'n ei gadw ar weinydd gael ei ddefnyddio yn eich erbyn. Mae manylion sy'n ymddangos yn ddiniwed fel eich rhestr ffrindiau neu'ch lleoliad mewngofnodi olaf ar gyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i dwyllwyr gasglu manylion amdanoch chi, eich cysylltiadau a'ch lleoliad. Yna gellir defnyddio manylion o'r fath i'ch targedu, boed yn ymosodiad gwe-rwydo neu fyrgleriaeth arferol. Felly, dylech chi bob amser gofio beth rydych chi'n ei rannu, a sicrhau bod unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei chadw ar-lein yn cael ei sicrhau'n iawn.

3. Beth alla i ei wneud i amddiffyn fy hun?

Mae yna ystod o dechnegau i'ch helpu chi i amddiffyn eich gwybodaeth sensitif. Rydym i gyd yn gwybod am bwysigrwydd cyfrineiriau cryf. Mae'n arfer da i ddefnyddio rheolwyr cyfrineiriau i gael mynediad i'ch gyfrifon ar-lein. Er mwyn cynyddu diogelwch ymhellach, dylech ystyried gosod MFA (dilysiad aml-ffactor) er mwyn mewngofnodi i systemau, gweinyddwyr a dyfieisiau ar-lein.

Mae cadw'ch holl systemau'n gyfredol yn hynod bwysig, felly hefyd y defnydd o feddalwedd gwrth-firws dibynadwy. Mae hefyd yn hanfodol cadw ar y blaen â'r technegau diogelwch diweddaraf oherwydd gall gwall dynol arwain at dorri data yn ddifrifol.  

Er bod amddiffyn eich hun ar-lein yn bwysig, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn mynd ymhellach fyth ac efallai y byddwch am helpu i amddiffyn eraill. Mae yna ystod eang o rolau ar gael ym maes seiberddiogelwch. Efallai y byddwch chi'n ystyried dod yn Dadansoddwr Diogelwch; sy'n dadansoddi gwendidau yn seilwaith digidol cwmni, neu Beiriannydd Diogelwch; sy'n monitro perfformiad systemau diogelwch ac yn rhoi mesurau ar waith i liniaru digwyddiadau diogelwch. Os yw eich angerdd yn gorwedd wrth ddylunio systemau neu feddalwedd diogelwch, efallai y byddwch chi'n ystyried dod yn Bensaer Diogelwch neu Ddatblygydd Meddalwedd Diogelwch. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr. Mae yna lawer mwy o rolau ar gael yn y maes hwn, felly mae'n siŵr y byddwch chi'n gallu dod o hyd i rywbeth sy'n gweithio i chi.