Mae Python yn iaith raglennu lân a darllenadwy a ddefnyddir yn gyffredin mewn addysg. Mae’n dod yn elfen bwysig o’r cwricwlwm Cyfrifiadura a TGCh ar draws y DU, felly mae gweithdy Python Technocamps yn gyfle perffaith i ddechreuwyr neu raglenwyr profiadol ddysgu iaith boblogaidd newydd.
Mae’n hawdd ei dysgu, ond gall dechreuwyr neu raglenwyr profiadol ei defnyddio, ac mae hefyd yn berthnasol iawn i ieithoedd codio mewn diwydiant. Mae’r gweithdy’n cyflwyno cysyniadau sylfaenol y gellir eu cymhwyso ymhellach i ieithoedd rhaglennu ac amgylcheddau codio eraill.