Mae’r gweithdy micro:bit hwn yn ymdrin ag elfennau o Feysydd Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg a’r Celfyddydau Mynegiannol. Bydd disgyblion yn dysgu hanfodion rhaglennu bloc a sut i ddefnyddio datganiadau amodol i wneud penderfyniadau mewn rhaglenni cyfrifiadurol. Bydd yr adnodd hefyd yn galluogi disgyblion i greu eu cyfansoddiadau cerddorol eu hunain drwy wneud defnydd o iteriad a seinyddion mewnol / cysylltedd clustffonau y micro:bit.
I dderbyn gweithdai neu gyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim ar ddefnydd y micro:bit yn eich ysgol yng Nghymru, cysylltwch â info@technocamps.com