Mae’r gweithdy micro:bit hwn yn ymdrin â meysydd o Feysydd Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Mathemateg a Rhifedd. Bydd disgyblion yn dysgu hanfodion rhaglennu bloc a sut i ddefnyddio datganiadau amodol i wneud penderfyniadau mewn rhaglenni cyfrifiadurol. Bydd yr adnodd hefyd yn galluogi disgyblion i greu eu gêm fathemateg eu hunain i’w helpu nhw a’u cyd-ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau a rhifedd.
I dderbyn gweithdai neu gyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim ar ddefnydd y micro:bit yn eich ysgol yng Nghymru, cysylltwch â info@technocamps.com