Mae’r gweithdy micro:bit hwn yn ymdrin ag elfennau o Feysydd Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg a’r Dyniaethau. Bydd disgyblion yn dysgu hanfodion rhaglennu seiliedig ar bloc a sut i ddefnyddio datganiadau amodol i wneud penderfyniadau mewn rhaglenni cyfrifiadurol. Byddant hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio technoleg i helpu bodau dynol i gyd-fyw ar y Ddaear â rhywogaethau eraill mewn ffordd fwy ecogyfeillgar a chynaliadwy.
I dderbyn gweithdai neu gyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim ar ddefnydd y micro:bit yn eich ysgol yng Nghymru, cysylltwch â info@technocamps.com