Mae'r sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad i ddylunio a rhaglennu eu gemau eu hunain gan ddefnyddio GameMaker Studio 2. Mae'r sgiliau a'r cysyniadau a gwmpesir yn adlewyrchu'r hyn a ddefnyddir yn y diwydiant Gemau wrth ddylunio gemau a gweithredu nodweddion cyffredin mewn gemau platfform/arcêd sylfaenol (ar raddfa lai wrth gwrs!) Bydd hwn hefyd yn gyfle DPP ardderchog i staff addysgu sydd am uwchsgilio ar gyfer y cymwysterau Technoleg Ddigidol.
Gofynion: GameMaker wedi'i osod ac ar gael i'r dysgwyr ei ddefnyddio.