Mae'r sesiwn hon yn rhoi cyflwyniad i'r cysyniadau o ddatblygu gwefannau a chymhwyso'r rhain i greu rhai eu hunain gan ddefnyddio Adobe Dreamweaver. Bydd y dysgwyr yn dod yn gyfarwydd a meddalwedd Dreamweaver yn ogystal â datblygiad HTML er mwyn caniatáu iddynt roi eu dyluniadau gwe ar waith. Bydd hwn hefyd yn gyfle DPP ardderchog i staff addysgu sydd am uchsgilio ar gyfer y cymwysterau Technoleg Ddigidol.
Gofynion: Adobe Dreamweaver wedi'i osod ac ar gael i'r dysgwyr ei ddefnyddio.