Yn dilyn ein swp cyntaf llwyddiannus o arloeswyr enwog ym myd technoleg, sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm Technoleg Ddigidol yng Nghymru, rydym wedi cynhyrchu posteri gyda mwy o flas Cymreig lleol. Lawrlwythwch y poster A2 cyfun a'r posteri unigol isod!
Posteri DigiTech Cyfrifiadurwyr
We have designed some bilingual posters with information about well-known computer scientists for you to display in your classroom. These figures all appear in the curriculum and these posters contain useful information about their work. There are individual posters and a larger poster that contains biographies from all six scientists: James Gosling, Ada Lovelace, Alan Turing, Tim Berners-Lee, Steve Jobs … Read More
Technoleg, Moeseg a'r Dyfodol
Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar esblygiad technoleg, materion moesegol sy'n ymwneud â thechnoleg a datblygiadau yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn adeiladu cylchedau electronig gan efelychu goleuadau clyfar ac yn defnyddio LEGO Mindstorms i ddynwared cerbydau ymreolaethol wrth ystyried pryderon moesegol.
C3: Mathemateg Python
Mae’r gweithdy hwn yn datblygu gwybodaeth myfyrwyr am raglennu, gan ganolbwyntio ar Python. Gyda chymorth llyfrgell Turtle, bydd myfyrwyr yn cryfhau eu dealltwriaeth o geometreg ac yn dysgu sut i raglennu siapiau amrywiol gan ddefnyddio Python:
C3: Meddwl Cyfrifiannol
Yn y gweithdy hwn, bydd disgyblion yn edrych ar y cysyniad o Feddwl Cyfrifiadol a'i gymhwyso i ddatrys problemau ac efelychu dilyniannau'r byd go iawn yn Scratch.