Nod y gweithdy hwn yw datblygu hyder myfyrwyr gyda rhaglenni iaith gydosod yn Little Man Computer. Bydd myfyrwyr yn defnyddio eu gallu i ddadelfennu prosesau cyn datrys problemau cymhleth, gan gynnwys dilyniannau fel y gwelir mewn Mathemateg TGAU.
CS101: HTML
Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno myfyrwyr i HTML. Mae'n rhoi'r sgil angenrheidiol iddynt greu eu tudalen(nau) gwe HTML eu hunain i'w defnyddio fel offeryn ar gyfer adolygu.
CS101: Algorithmau II
Mae'r gweithdy hwn yn adeiladu ar y cyntaf wrth ganolbwyntio ar weithredu'r amrywiol algorithmau gan ddefnyddio Python. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu a defnyddio algorithmau gan gynnwys trefnu a chwilio algorithmau, wrth atgyfnerthu eu gwybodaeth raglennu ar yr un pryd.
CS101: Algorithmau I
Mae’r gweithdy hwn yn datblygu gallu myfyrwyr i ddadelfennu prosesau cymhleth trwy ddefnyddio siartiau llif a chyfarwyddiadau cam wrth gam. Yna cymhwysir y sgiliau hyn i ddatrys cwestiwn ar ffurf TGAU Rhifedd ac archwilir enghreifftiau o algorithmau a ddefnyddir yn gyffredin.
CS101: Greenfoot
Mae’r gweithdy hwn yn datblygu gwybodaeth myfyrwyr am raglennu gwrthrychau, gan ganolbwyntio ar amgylchedd Greenfoot yn Java. Trwy greu cyfres o gemau, bydd myfyrwyr yn cryfhau eu dealltwriaeth o sut mae rhaglenni sy'n canolbwyntio ar wrthrychau wedi'u strwythuro.