Deunaw Ar Hugain O Athrawon Yn Dathlu Llwyddiant Cymhwyster

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Ym mis Gorffenaf, daeth y trydydd garfan o ddysgwyr i ennill y Tystysgrif Cyfrifiadura ar gyfer Athrawon lefel 3 (QCF) fel rhan o raglen flwyddyn DPP Technoteach. Cefnogir y rhaglen Technoteach DPP gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol trwy Lywodraeth Cymru er mwyn i athrawon wella sgiliau, i ddod yn gymwys ac yn hyderus yn eu gallu i gyflwyno'r cwricwlwm gwyddoniaeth gyfrifiadurol, yn ogystal â chefnogi cyflwyniad y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Caiff y cwrs ei achredu gan VTCT ac fe'i cyflwynir drwy gydol y flwyddyn academaidd (18 sesiwn diwrnod llawn) gydag athrawon yn cyfarfod unwaith bob pythefnos i ddatblygu eu dealltwriaeth o ystod o bynciau gwyddoniaeth gyfrifiadurol o roboteg i raglennu Python. Mae ffocws cryf o'r cwrs yn cynnwys paratoi cynlluniau gwaith ac adnoddau ategol fel y gall athrawon eu defnyddio ar unwaith yn eu hystafelloedd dosbarth.

Mae'r cwrs unwaith eto wedi cael effaith fawr ar yr athrawon dan sylw, eu hysgolion ac yn arbennig eu disgyblion.

Dywedodd Leah John, athrawes o Ysgol Gynradd Pontllanfraith, "Mae'r cwrs yn wahanol iawn i gyrsiau DPP eraill, mae'n rhoi amser i ni weithredu beth ddysgom ni ac i dderbyn adborth a chyfleoedd i wella ein hadnoddau. Rwyf wedi mwynhau'r cwrs ac wedi dysgu llwyth. Ar ddechrau'r cwrs roeddwn yn nerfus ond nawr rwyf yn awyddus i rannu fy nealltwriaeth, sgiliau ac arbenigedd blwyddyn nesaf wrth i mi symud i fyny i addysgu yng nghyfnod allweddol 2."

Gwnaeth Nicole Waller, athrawes yn Ysgol Uwchradd Bedwas sôn "Roedd yr amser rhwng sesiynau yn fy ngalluogi i ddefnyddio beth ddysgais yn y sesiynau ac os oedd angen cymorth bellach roeddwn i'n gallu gofyn yn y sesiwn nesaf. Rwyf wedi defnyddio'r cynlluniau gwaith wnes i greu ar gyfer pob uned ar y cwrs fel rhan o fy addysgu yn yr ysgol ac rwyf yn nawr yn teimlo'n ddigon hyderus i ddechrau'r gwaith cwrs TGAU gyda fy nosbarthiadau o ganlyniad i'r cwrs hwn."

Ar hyn o bryd rydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer y garfan flwyddyn nesaf, am fwy o wybodaeth, ewch yma. http://www.technocamps.com/cy/news/free-accredited-cpd-opportunity-for-teachers-across-wales-2018