Haf STEM Technocamps

adminDigwyddiad, Newyddion

Bydd unrhyw un sydd erioed wedi cymryd rhan yn un o'n gweithdai yn gwybod bod gan Swyddogion Cyflenwi Technocamps y ddawn o droi gwyddoniaeth a thechnoleg gymhleth yn weithgareddau hwyliog a diddorol yn yr ystafell ddosbarth.

Eleni, rydym wedi penderfynu defnyddio ein holl sgiliau a phrofiadau i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol ac yn wirioneddol gyffrous dros wyliau'r haf. Fel pawb arall, nid ydym wedi bod allan yn iawn ers tro, felly rydym wedi cael llawer o amser a lle i feddwl am syniadau mwy gwirion ond gwych sy'n sicr o'ch diddanu a'ch diddori!

Efallai fod Covid-19 wedi ein hatal rhag cynnal ysgolion haf yn ein canolfannau rhanbarthol, ond nid yw wedi ein hatal rhag camu i'r byd rhithiol a mynd â'n hysbrydoliaeth ar-lein!

Eleni, byddwn yn cynnal “Haf o STEM”, sy'n agored i unrhyw un rhwng 9 ac 16 oed.

Gan ddechrau ym mis Awst, byddwn yn mynd yn 'fyw' am 15 diwrnod, gyda gweithgareddau ac arbrofion i roi cynnig arnynt gartref.

Mae ein ffrydiau byw AM DDIM, a byddwn yn gwneud rhywbeth gwahanol bob dydd.

Os ymunwch chi â ni, byddwch yn cael cyfle i gwrdd ag aelodau newydd o'r tîm Technocamps, ac i weithio gyda gwyddonwyr o bob rhan o Gymru.

Mae gennym bethau gwych wedi'u cynllunio ... pob un â ffocws ar dechnoleg wrth gwrs.

Bydd pawb sy'n cofrestru yn cael pecyn croeso gyda nwyddau am ddim trwy'r post, a phecyn GWYDDONIAETH arbennig ar ôl iddynt fynychu eu sesiwn gyntaf.

Nid yw'n ofynnol i rieni brynu unrhyw offer drud er mwyn ymuno. Er mwyn ymuno, y cyfan y mae ei angen arnoch yw mynediad at ddyfais sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd, ynghyd â phethau bob dydd eraill sydd yn fwy na thebyg eisoes ar gael o amgylch y tŷ.

Mae pob diwrnod yn annibynnol felly mae yna hyblygrwydd, gan roi'r opsiwn i chi ddewis o ddewislen o sesiynau gwahanol. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel:

  1. Deunyddiau Cerdd: Dysgu mwy am fyd sain trwy arbrofi â'r deunyddiau y byddwch yn dod o hyd iddynt o'ch cwmpas.
  2. Sut i Ennill: Nid oes dim byd yn waeth na cholli wrth chwarae gemau syml. A oeddech yn gwybod bod yna strategaethau ar gael a all eich helpu i ennill bob tro?
  3. Peiriannau yn Meddiannu: A oeddech yn gwybod bod yna ddyfeisiau yn eich cartref a all feddwl drostynt eu hunain?

Fel cymhelliant ychwanegol, bydd unrhyw un sy'n mynychu 8 diwrnod neu fwy yn cael cyfle i ddatrys pos i ennill bag o nwyddau Technocamps! Byddwch hefyd yn cael eich cynnwys yn y raffl i ennill un o ddeg o Raspberry Pis neu dalebau Amazon.

Bydd y ddolen isod yn mynd â chi i'r dudalen gofrestru, ac ar ôl i ni gael yr holl fanylion cofrestru, byddwn yn eich gwahodd i ymuno â Haf STEM Technocamps ar ein gwefan.

Cofiwch y bydd angen i unrhyw un o dan 13 oed wirio gyda rhiant a chael caniatâd cyn cwblhau'r broses gofrestru.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn ystod yr Haf o STEM.