Cystadleuaeth Codio Dinasoedd Clyfar Technocamps yn cyrraedd Prifysgol Caerdydd ar gyfer Rownd Derfynol 2019

adminCystadleuaeth, Digwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Daeth Technocamps i'r brifddinas yn ddiweddar ar gyfer rownd derfynol genedlaethol ei gystadleuaeth codio flynyddol, a gyflwynwyd eleni gan Brifysgol Caerdydd. Heriwyd disgyblion o bob cwr o Gymru i greu darn o feddalwedd â'r thema Dinasoedd Clyfar. Roedd y beirniaid ar ben eu digon gyda'r creadigrwydd, yr arloesedd a'r sgiliau technegol a amlygwyd gan yr holl dimau a gymerodd ran, a chyda safon eithriadol o uchel y cyflwyniadau a gafwyd gan bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

Ymhlith y syniadau yr oedd IRIS, gan Ysgol Uwchradd Caerdydd, a oedd yn cynnig dewis arall, mwy diogel yn lle'r seinydd clyfar, a hynny gan dîm a oedd mor frwdfrydig ynghylch codio ar ôl cymryd rhan yn y gystadleuaeth, fel bod yr aelodau wedi dychwelyd i'w hysgol gynradd i gynnal eu clwb codio eu hunain gan ddefnyddio adnoddau Tachnocamps i ddarparu hyfforddiant a chymorth ar gyfer disgyblion iau.

Roedd y Rheolwr Rhaglen, Julie Walters, yn falch o gael mynd i'w digwyddiad cyntaf ers dechrau ar ei rôl gyda Technocamps.

“Roedd yn anhygoel gweld cymaint o frwdfrydedd yn yr ystafell, ynghyd ag ystod mor amrywiol o brosiectau a gynhyrchwyd gan yr holl ddisgyblion a gymerodd ran.” 

Julie Walters

Ysgol Gyfun Pontarddulais o Abertawe oedd yr enillydd. Bu i'w ap ar gyfer cartref clyfar, a oedd yn galluogi'r defnyddiwr i reoli goleuadau, bleindiau a nodweddion eraill y cartref, gan felly sicrhau bod yr amgylchedd mor effeithlon â phosibl, wneud argraff ar y beirniaid a sicrhau'r wobr gyntaf i'r tîm. Roedd yr athro TG, Mr Lewis, a gefnogodd y tîm buddugol, wrth ei fodd â'r canlyniad:

“Roedd y disgyblion wedi gwneud cymaint o ymdrech gyda'r prosiect, gan aros am ddwy neu dair awr ar ôl ysgol yn rheolaidd i ddatblygu eu cysyniadau eu hunain. O safbwynt athro, roedd yn hyfryd gweld grŵp o ffrindiau ifanc, brwdfrydig yn cydweithio i ddatblygu syniad cychwynnol yn brototeip cwbl weithredol. Roeddent wir wedi eu gwthio eu hunain wrth greu datrysiadau i'w problemau; rhywbeth yr ydym yn ceisio ei annog mewn bywyd bob dydd. Ers iddynt fod yn ôl yn yr ysgol, mae'r disgyblion wedi bod yn siarad yn frwd am wobr y gystadleuaeth, sef cael eu pennau wedi'u sganio a'u hargraffu gan ddefnyddio argraffydd 3D.”

Mr Lewis

Roedd Evie Beck, sy'n aelod o'r tîm, yr un mor frwdfrydig am y prosiect cyfan:

“Roeddem wedi aros ar ôl ysgol, a dod mewn amser cinio, ac roedd ein holl waith wedi talu ar ei ganfed. Mae'n deimlad anhygoel gwybod bod y beirniaid yn gwerthfawrogi'r holl ymdrech ac amser yr oeddem wedi'u buddsoddi yn y prosiect. Cawsom gymaint o hwyl a phrofiad gwych yng Nghaerdydd.”

Evie Beck

Hoffai Technocamps ddiolch I RedHat a chwmni yswiriant Admiral am eu cymorth, a diolch arbennig i'n gwesteiwr, Prifysgol Caerdydd, am wneud gwaith mor wych wrth drefnu'r digwyddiad cyfan.

Hoffem hefyd longyfarch pob ysgol a gymerodd ran, ac edrychwn ymlaen at groesawu nifer o'n hysgolion yn ôl ar gyfer y Gystadleuaeth Roboteg y byddwn yn ei lansio'n ddiweddarach eleni.