We use cookies to analyse our traffic. Please decide if you are willing to accept cookies from our website..
English

Technocamps yn Eisteddfod yr Urdd 2018

Cyhoeddwyd: 05 June 2018

Mwynhaodd Technocamps wythnos hwylus yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanfair-ym-Muallt. Roedd y stondin yn boblogaidd iawn gyda llwyth o ddisgyblion brwdfrydig o Gymru yn rhoi cynnig ar raglennu ein robotiaid NXT LEGO Mindstorms i ddatrys tasg. Roedd gennym ni hefyd ddisgyblion a rhieni yn ceisio profi eu sgiliau datrys problemau gyda'n gemau cyfrifiadurol a raglennir yn Scratch. Roedd y diddordeb yn ein stondin yn wych ac un uchafbwynt arbennig oedd ymddangos ar ddarllediad byw S4C o'r Eisteddfod ddydd Iau. Roedd yn bleser cynnig y profiadau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg i gynifer o siaradwyr Cymraeg ifanc yn y dathliad yn arddangos diwylliant ein cenedl. Wrth siarad am ddiwylliant a'r celfyddydau, yn Technocamps, rydym ar hyn o bryd yn edrych ymlaen at weld creadigrwydd disgyblion wrth iddynt baratoi ar gyfer ein cystadleuaeth roboteg flynyddol, sydd eleni yn seiliedig ar y thema "Artistiaid Awtonomaidd". Ein nod gyda'r thema hon yw ysbrydoli disgyblion i gyfuno'r sgiliau creadigol mewn Cyfrifiadureg a'r celfyddydau ac rydym yn gyffrous iawn i weld y canlyniadau!

Am fwy o wybodaeth, gweler ein llyfryn: CystadleuaethRobotegTechnocamps2018.pdf

Gallwch gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yma: https://goo.gl/forms/eECWZUp644GfX4RE3


Y newyddion diweddaraf

Croeso i rifyn Haf Newsbyte. Fel pawb arall rydym wedi cael cwpl o fisoedd gwirion wrth i’r tîm ddod i arfer â’r ‘normal’ newydd i gyfyngu ar y tarfu a achosir gan Covid-19.

Eleni, byddwn yn cynnal “Haf o STEM”, sy'n agored i unrhyw un rhwng 9 ac 16 oed. Gan ddechrau ym mis Awst, byddwn yn mynd yn 'fyw' am 15 diwrnod, gyda gweithgareddau ac arbrofion i roi cynnig arnynt gartref.

Mae'n ymddangos yn oesoedd bellach ers i'n digwyddiad rhwydweithio Menywod mewn STEM diwethaf gael ei gynnal. Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle i fenywod sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg

DPP ar-lein ar gyfer Athrawon Ysgol Uwchradd TGCh a Chyfrifiadureg

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm
Mae'r prif bartner, Prifysgol Abertawe, yn elusen gofrestredig. Rhif. 1138342