English

Cinio Diwrnod Rhyngwladol Menywod ITWales – Dathlu Menywod ym maes TG yng Nghymru "Cefnogi Datblygiad Gyrfa Cynnar"

Cyhoeddwyd: 04 February 2019

Mae dathliad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales yn rhoi cipolwg o'r amrediad amrywiol o gyfleoedd sydd ar gael o ran busnes a gyrfaoedd i fenywod yn yr 21ain Ganrif, ac yn cynnig platfform i fenywod ar gyfer rhannu profiadau, gwybodaeth ac arfer gorau, yn arbennig y rhai hynny sy'n gweithio ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Thema eleni yw "Cefnogi Datblygiad Gyrfa Cynnar", ac mae'n cael ei noddi ar y cyd gan Technocamps ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y digwyddiad yn dangos beth yw'r heriau o ran addysg a busnes, a hynny'n rhanbarthol ac yn genedlaethol; bydd yn canolbwyntio ar gyflawniadau ledled Cymru, a bydd grŵp amrywiol o siaradwyr allweddol yn annerch.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod (8 Mawrth) yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bob blwyddyn, mae miloedd o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd, i ysbrydoli a dathlu cyflawniadau. Mae gwe fyd-eang o weithgarwch cyfoethog ac amrywiol yn cysylltu menywod o bedwar ban y byd, yn cynnwys ralïau gwleidyddol, cynadleddau busnes, gweithgareddau llywodraethau, a digwyddiadau rhwydweithio.

5:00-6:00yh            Cofrestru, Derbyniad Diodydd a Rhwydweithio

6:00-6:10yh            Croesawiad gan Kev Johns, Swansea Sound

6:10-6:20yh            Sylwadau Agoriadol, Julie James AC

6:20-6:25yh            Diweddariad Technocamps, Julie Walters, Rheolwr Prosiect

6:25-6:45yh            Andrea Meyrick, Techniquest

6:45-8:15yh            Cinio Gala

8:15-8:35yh            Yr Athro Wendy Dearing, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

8:35-9:00yh            Trafodaethau Panel  

9:00yh                    Sylwadau i Gloi

Daw'r digwyddiad i ben am 9yh, ond mae croeso i westeion fwynhau diodydd a rhwydweithio tan 10yh.

Gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni am noson i'ch diddanu, eich cymell a'ch ysbrydoli.

Y newyddion diweddaraf

Mae Game of Codes yn ôl unwaith eto fel cystadleuaeth rhaglennu traws-Cymru Technocamps. Bydd y cystadleuaeth yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a chydweithio.

Mae cymwysterau TGCh a ddefnyddir mewn ysgolion a cholegau addysg bellach yn hen ac mae angen diwygiad sylfaenol arnynt.

Mae cofrestru ar gyfer Clwb Codio Ar ôl Ysgol Technocamps Tymor y Gwanwyn (Ionawr - Ebrill) nawr ar agor. Brysiwch i gofrestru gan fod llefydd yn brin. Cliciwch ar y ddolen i gael gwybod mwy

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm