English

Dathliad Diwrnod Rhyngwladol Menywod TGCymru 2018

Cyhoeddwyd: 14 March 2018

Ar yr 8fed o Fawrth, 2018 yng Ngwesty'r Marriott yn Abertawe, cynhaliodd ITWales eu deunawfed Cinio Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a noddwyd gan Technocamps a'r BCS. Mynychodd dros 190 o bobl o bob rhan o Dde Cymru y digwyddiad i ddathlu Menywod mewn TG Cymraeg, a oedd eleni'n canolbwyntio ar 'Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf'.

Trefnodd TGCymru y digwyddiad hwn am y tro cyntaf yn 2000, a hynny er mwyn tynnu sylw at y niferoedd bach iawn o ferched sy'n dewis astudio Cyfrifiadureg, a'r bwlch enfawr sy'n bodoli rhwng y rhywiau ym maes TGCh a chyfrifiadura. Yn anffodus, ychydig iawn sydd wedi newid ers hynny, ac rydym yn parhau i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon. Ac yn ddiau, mae hon yn broblem: ym myd Cyfrifiadura y ceir yr anghydbwysedd gwaethaf rhwng y rhywiau ymhlith myfyrwyr sy'n astudio pynciau STEM ar lefel Addysg Uwch – lle mae anghydbwysedd gwael yn bodoli yn gyffredinol – a hynny er gwaethaf astudiaethau amrywiol sy'n awgrymu bod menywod yn creu gwell codau cyfrifiadurol na dynion.

Cyflwynwyd y digwyddiad gan Kev Johns o Sain Abertawe gydag ystod o siaradwyr ysbrydoledig o bob cwr o'r DU. Y siaradwyr oedd:

Clare Riley, Rheolwr Ymgysylltu AU gan Microsoft Education

Janner Herd, Ymgynghorydd E-ddysgu

Emily Bristow, Pennaeth Awtomeiddio Gwybyddus, GCI

Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad, y siaradwyr a Kev Johns am gefnogi'r digwyddiad ac rydym eisoes yn cynllunio digwyddiad y flwyddyn nesaf.



Y newyddion diweddaraf

Mae Technocamps yn parhau i arwain y daith tuag at annog merched i ystyried gyrfaoedd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Dathlu llwyddiant deunaw o athrawon sydd wedi cwblhau eu cymhwyster VTCT gyda Technocamps

Gan ddechrau yn nhymor yr Hydref 2019, bydd Technocamps unwaith eto yn cynnig cyfle am ddim i athrawon i wella sgiliau mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol.

Unwaith eto, cafodd Technocamps y fraint o gael ei wahodd i gymryd rhan yn y digwyddiad anhygoel hwn sy'n hyrwyddo perthnasoedd rhwng Gwyddoniaeth, Ymchwil a Diwydiant yng Nghymru.

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm


Mae'r prif bartner, Prifysgol Abertawe, yn elusen gofrestredig. Rhif. 1138342