English

Plant Ysgol Gynradd Hendrefoelan yn Dysgu i Godio

Cyhoeddwyd: 06 April 2017

Clwb codio arloesol a ddechreuwyd gan Jimi Breisford-Smith; mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Hendrefoelan bellach yn cael ei gefnogi gan Technocamps. Yn y clwb, mae disgyblion wedi bod yn hunan-addysgu cysyniadau megis datblygu gwefannnau, Javascript, a mwy. Mae aelodau'r clwb yn frwdfrydig iawn ac yn dewis treulio amser yn y clwb yn ystod eu hawr ginio.

Gofynnwyd Technocamps i helpu i gefnogi'r clwb hwn, ac roedden yn fwy na pharod i helpu. Mae un o'n llysgenhadon, Kevin;  myfyriwr Meistr Peirianneg Meddalwedd, yn awr yn ymweld â'r clwb bob dydd Mercher er mwyn helpu i gymryd y clwb ymhellach.

Yn y sesiynau mae Technocamps yn darparu, rydym yn helpu i gyflwyno'r blociau adeiladu mae pob gwyddonwr cyfrifiadurol yn defnyddio o ddydd i ddydd. Yn fuan y gobaith yw y bydd y clwb yn trosglwyddo i ddefnyddio'r BBC Micro:bit i ddechrau dysgu'r plant sut mae'r cysyniadau maent wedi dysgu yn berthnasol i fwy na datblygu gwefnanau yn unig.

Ymddangosodd y clwb yn yr Evening Post yn ddiweddar.



Y newyddion diweddaraf

Mae Cystadleuaeth Roboteg Technocamps yn rhedeg unwaith eto eleni gyda'r rownd terfynol yn digwydd ar y 17eg o Orffenaf, 2019.

Technocamps yn ymuno â'r hwyl yn ystod digwyddiad Dydd Sul o Wyddoniaeth Wych yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Daeth ysgolion o bob cwr o Gymru i Gaerdydd i gystadlu yng nghystadleuaeth codio flynyddol Technocamps

Technocamps yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched yng Nghinio Mawreddog Blynyddol TGCymru yn Abertawe. Roedd mwy na 170 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad a oedd yn arddangos y merched sy'n rhan o'r byd STEM a Thechnoleg.

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm