English

Technocamps Game of Codes - Cystadleuaeth 2017

Cyhoeddwyd: 15 December 2017

Mae Game of Codes yn ôl unwaith eto fel cystadleuaeth rhaglennu traws-Cymru Technocamps.  Bydd y cystadleuaeth yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a chydweithio, yn ogystal â gwella eu gwybodaeth am gyfrifiadureg mewn ffordd hwylus a dyfeisgar.

Yr her yw i greu darn o feddalwedd gan ddefnyddio Y Gofod fel thema.

Bydd rhaid i ddyluniad eich meddalwedd fod yn wreiddiol ac ar ffurf naill ai gêm, gwefan, ap, cwis, neu animeiddiad. Gellir dewis unrhyw iaith rhaglennu e.e. Scratch, Python, Greenfoot, Visual Basic, App Inventor neu HTML ayyb. a gallech ddefnyddio unrhyw Raspberry Pis, BBC Micro:bits neu citiau Arduino sydd gennych yn eich ysgol.

I weld y pecyn gwybodaeth ar gyfer y cystadleuaeth, gwasgwch y cyswllt isod:

GameofCodes_Competition_2017_Information_Leaflet_Welsh.pdf

Fersiwn Saesneg:

GameofCodes_Competition_2017_Information_Leaflet.pdf

Y newyddion diweddaraf

Dathlu llwyddiant deunaw o athrawon sydd wedi cwblhau eu cymhwyster VTCT gyda Technocamps

Gan ddechrau yn nhymor yr Hydref 2019, bydd Technocamps unwaith eto yn cynnig cyfle am ddim i athrawon i wella sgiliau mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol.

Unwaith eto, cafodd Technocamps y fraint o gael ei wahodd i gymryd rhan yn y digwyddiad anhygoel hwn sy'n hyrwyddo perthnasoedd rhwng Gwyddoniaeth, Ymchwil a Diwydiant yng Nghymru.

Mae Prifysgol Abertawe yn parhau i wella ei henw da am estyn allan at y gymuned ehangach trwy lansio CoSMOS yn swyddogol, sef Gofod Allgymorth newydd Margam y Coleg Gwyddoniaeth.

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm


Mae'r prif bartner, Prifysgol Abertawe, yn elusen gofrestredig. Rhif. 1138342