Diwrnod Amelia Earhart 2018

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae'r 18fed o Fehefin, 2018 yn nodi 90 mlynedd ers glaniad Amelia Earhart ychydig oddi ar arfordir Pwll ac yn cyrraedd Porth Tywyn a mwynhaodd merched o ysgolion cynradd Porth Tywyn lleol bore llawn hwyl i ddathlu'r digwyddiad. Wedi'i wahodd gan Lee Waters AS cyflwynwyd y merched ysgol lleol i nifer o weithgareddau gwyddoniaeth llawn hwyl o dan arweiniad arbenigol Mad Science a Technocamps. 

Dangoswyd iddynt y gwyddoniaeth gyffrous y tu ôl i hedfan a grymoedd yn ogystal a gweithgareddau ymarferol gydag awyrennau papur, sychwyr gwallt a phêl ping-pong! 

Yn y gweithdy Technocamps, cafodd y merched y cyfle i ddatblygu ac arddangos eu sgiliau rhaglennu ardderchog trwy greu gemau hwyliog am Amelia Earhart. Cawsom ein syfrdanu gan ba mor gyflym wnaethon nhw codio'r gêm, yn enwedig o ystyried y cyfyngiadau amser i gywasgu'r holl gyffro i mewn i fore yn unig! Diwrnod gwych!

Mae ein adnodd ar gyfer creu'r gêm ar gael fan hyn: 

Saesneg: Amelia Earhart Game – Worksheet.pdf

Cymraeg: gem-amelia-earhart.pdf

Ac wrth gwrs, gellir canfod Scratch ar y gwefan: https://scratch.mit.edu