Athrawon yn cychwyn cwrs DPP Technoteach
Cyhoeddwyd: 03 October 2017
Ar ddechrau tymor yr Hydref, mae dros 46 o athrawon ledled Cymru wedi cychwyn cwrs DPP achrededig flwyddyn o hyd darparir gan Technocamps.
Mae’r cwrs DPP yn cael ei achredu gan VTCT a bydd yr athrawon yn ennill cymhwyster (QCF) Lefel 3 Tystysgrif Cyfrifiadureg ar gyfer Athrawon. Nod y cwrs yw darparu i athrawon gwybodaeth a sgiliau ar gyfer addysgu cyfrifiadureg a chefnogi’r Fframwaith Cymhwysedd digidol yn eu hysgolion.
Dyma’r drydedd flwyddyn mae’r rhaglen wedi rhedeg, sydd wedi gweld 30 o athrawon yn cyflawni’r cymhwyster yn y gorffennol. Yn wreiddiol darparwyd y cwrs ym mhrifysgol Abertawe yn unig, ond gan fod nifer fawr o athrawon wedi mynegi diddordeb yn ardaloedd eraill, rydym yn awr yn cynnig y cwrs yng ngogledd a Gorllewin Cymru eleni.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar y wefan Technocamps.
Y newyddion diweddaraf
Cystadleuaeth rhaglennu traws-Cymru Technocamps yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a chydweithio.
Am benwythnos anhygoel wrth i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gael ei chymryd drosodd gan Wyddoniaeth!
Mae Max wedi cael ei enwebu gan ei gwmni, SONY, ar gyfer gwobr "Prentis y Flwyddyn" Cymru gyda Make UK