Game of Codes 2025

superhero in a circle filled with binary code

Penblwydd Game of Codes yn 10 mlwydd oed!


Mae Game of Codes yn ôl ac yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed gyda Chystadleuaeth Rhaglennu Gêm Genedlaethol o Godau Technocamps Cymru gyfan. Bydd y gystadleuaeth yn galluogi disgyblion sydd â diddordeb i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu, a gwaith tîm wrth wella eu gwybodaeth o raglennu cyfrifiadurol mewn ffordd hwyliog a dyfeisgar.

Archarwyr Gwyddoniaeth


Yr her yw creu darn o feddalwedd gan ddefnyddio “Archarwyr Gwyddoniaeth”. Gallwch ganolbwyntio ar unrhyw agwedd ar wyddoniaeth. Efallai y gallech ganolbwyntio ar wyddoniaeth archarwyr neu sut i annog pobl i ymwneud mwy â gwyddoniaeth. Rhaid bod gan eich meddalwedd ddyluniad gwreiddiol a allai fod ar ffurf gêm, gwefan, ap, cwis neu animeiddiad. Gellir defnyddio unrhyw iaith codio i greu’r meddalwedd e.e. Scratch, Python, Java, Visual Basic, App Inventor neu HTML ac ati a gallwch hefyd ddefnyddio'r Raspberry Pi neu'r BBC micro:bits sydd gennych yn eich ysgol. Gallwch gystadlu fel tîm neu fel unigolyn. Rhaid i bob cais ddarparu cyswllt athro (neu arweinydd clwb/rhiant) a chael cefnogaeth eu hysgol cyn cofrestru. Nid oes cyfyngiad ar nifer y timau/unigolion o ysgol gall gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Gwybodaeth Allweddol