Mae’r ffordd y mae pobl yn gwario yn newid, ac felly hefyd y mae'r Bathdy Brenhinol. Bydd Anne Jessopp, Prif Swyddog Gweithredol y Bathdy Brenhinol, yn archwilio sut y creodd cwmni hynaf Prydain ddyfodol cyffrous sydd wedi’i wreiddio yn ei dreftadaeth.
Dros y tair blynedd diwethaf mae'r busnes 1,100 oed hwn wedi ehangu'n llwyddiannus i farchnadoedd newydd ac wedi denu cwsmeriaid newydd tra'n cadw ei ffocws traddodiadol. Ar un adeg yn enwog am wneud darnau arian y DU, mae bellach ar daith i ddod yn enwog fel ‘Y Gwneuthurwr Gwreiddiol’.
Bydd Anne yn trafod ei llwybr i ddod yn Brif Swyddog Gweithredol, yr heriau y mae wedi’u hwynebu, a sut y mae wedi arwain y busnes i addasu i’r byd busnes sy’n esblygu’n barhaus.
Mae ein digwyddiadau WiST wedi'u hanelu at fenywod yn y sector technoleg (neu sydd â diddordeb brwd yn y diwydiant) i ddysgu gan fenywod ysbrydoledig eraill a rhwydweithio â phobl o'r un anian. Mae pob digwyddiad yn hollol rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.
This event will take place via Zoom between 11.30am-1pm on Friday 21st January. The lunchtime session will provide an opportunity to hear from our speaker, ask any questions you have and network with like-minded people in a relaxed forum.