Mae unrhyw un sydd erioed wedi cymryd rhan yn ein gweithdai yn gwybod bod gennym ni ddawn o droi gwyddoniaeth a thechnoleg gymhleth yn weithgareddau hwyliog a diddorol yn yr ystafell ddosbarth!
Ym mis Gorffennaf, rydyn ni'n eich gwahodd i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol ac yn gyffrous iawn dros bythefnos olaf y tymor. Dewch draw i'n Academi STEM am ddiwrnod o weithgareddau gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Fel pawb arall, nid ydyn ni wedi bod allan yn iawn ers amser hir, felly rydyn ni wedi cael llawer o amser i gynnig syniadau hwyliog sy'n siŵr o'ch diddanu. Bydd helfeydd trysor, ystafelloedd dianc, robotiaid a rocedi!
Anelir yr Academi at ddisgyblion ym Mlwyddyn 6 ac mae'n hollol rad ac am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau isod, anfonwch ebost at info@technocamps.com