Loading Events

« Pob Digwyddiad

  • This event has passed.

Dyddiad Cau Cofrestru Cystadleuaeth Roboteg 2024

4th Mehefin 2024

Mae roboteg yn dod yn fwyfwy cyffredin yn ein bywydau o ddydd i ddydd, yn gallu cyflawni tasgau dim ond bodau dynol oedd medru yn y gorffenol. Mae Technocamps yn cynnal Cystadleuaeth Roboteg Genedlaethol Cymru gan ddefnyddio LEGO Mindstorm neu Spike, Arduino, neu unrhyw galedwedd roboteg arall sydd ar gael gennych. Bydd y gystadleuaeth yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm, yn ogystal â’u gwybodaeth am gyfrifiadureg mewn ffordd hwyliog a dyfeisgar.

Yr her yw dylunio a chreu robot sy'n gallu cyflawni camp chwaraeon. Meddyliwch sut y gellid ei gynllunio i guro ei gystadleuwyr. Creadigrwydd yw'r allwedd! Rhaid i'ch tîm greu ddyluniad gwreiddiol ar gyfer eich robot, yna ei ddatblygu a'i brototeipio yn barod i'w gyflwyno yn rownd derfynol y gystadleuaeth.

Bydd y rownd derfynol hefyd yn cynnwys her FYW - bydd manylion yn cael eu cyhoeddi yn y digwyddiad. Bydd yr her hon yn cynnwys addasu eich robot; efallai y bydd angen newid ei gyflymder neu ychwanegu nodweddion fel dull o godi, symud neu wthio gwrthrych. Bydd pob tîm yn cael amser yn ystod y dydd i gynllunio ac addasu eu robot yn barod i gystadlu yn erbyn ceisiadau eraill y gystadleuaeth.

Eisiau bod yn rhan o'r digwyddiad hwn? Casglwch dîm a mynegwch eich diddordeb erbyn 4ydd Mehefin 2024. Addas ar gyfer plant oed ysgol.
De Cymru: info@technocamps.com
Gogledd Cymru: bangor@technocamps.com

MANYLION

Dyddiad
4th Mehefin 2024
Event Category:

Lleoliad

Ar-lein
Mae'r Partner Arweiniol, Prifysgol Abertawe, yn elusen gofrestredig rhif. 1138342 a Chwmni Siarter Brenhinol rhif. RC000639