Rhaglen Achrediad DPP ar gyfer Athrawon ac Ysgolion Cynradd (Cymru)
Mae 10 sesiwn DPP rhad ac am ddim ar gael i athrawon cynradd. Cofrestrwch a byddwn yn anfon ebost
Byddwch yn cychwyn y rhaglen y term rydych chi'n ei gofrestru.
Nod y sesiynau hyn yw gwella gwybodaeth athrawon am Gyfrifiadureg a Meddwl Cyfrifiannol, cymhwyso’r sgiliau hyn yn yr ystafell ddosbarth ac yn strategol ar draws yr ysgol.
Cysylltir hyn â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol gan weithio ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad newydd y cwricwlwm newydd. Trwy gymryd rhan yn y rhaglen hon, bydd athrawon yn derbyn cydnabyddiaeth Technocamps gan ddod yn ‘Athro Technocamps Ardystiedig’, neu bydd ysgolion yn ennill statws ‘Ysgol Technocamps Ardystiedig’ ar lefel Efydd, Arian neu Aur.
Dyrennir gwobrau ar sail cwblhau rhaglen Hyfforddi (DPP) Athrawon Technocamps 2021-2022 gan athrawon unigol, ac ar sail nifer yr athrawon sy’n cwblhau’r rhaglen yn yr ysgol.
Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 3.30-5.30pm ar y diwrnodau canlynol:
15fed Medi
22ain Medi
29ain Medi
6ed Hydref
13eg Hydref
20fed Hydref
3ydd Tachwedd
10fed Tachwedd
7fed Tachwedd
24ain Tachwedd
Cofrestrwch nawr: http://bit.ly/CertifiedTeacher2021