Mae ein digwyddiadau WiST wedi'u hanelu at fenywod yn y sector technoleg (neu sydd â diddordeb brwd yn y diwydiant) i ddysgu gan fenywod ysbrydoledig eraill a rhwydweithio â phobl o'r un anian. Mae pob digwyddiad yn hollol rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.
Rydyn ni i gyd yn dal i geisio darganfod beth sy'n gweithio orau i ni yn y ffordd newydd o weithio. Mae cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith yn wahanol i bawb, a gall gwneud yn siŵr bod pawb yn eich bywyd cartref a bywyd swyddfa yn deall eich cydbwysedd fod yn her.
Nid yw’n golygu rhannu eich amser 50/50 rhwng gwaith a hamdden, ond gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n fodlon yn y ddau faes o’ch bywyd. Boed hynny’n golygu cwrdd â therfynau amser gwaith ond dal i gael amser i’w dreulio gyda ffrindiau a theulu, gwneud yn siŵr eich bod yn bwyta a chysgu’n dda, neu ymlacio y tu allan i oriau swyddfa (rhywbeth a all fod yn anodd wrth weithio gartref!).
Yn y drafodaeth hon, bydd Stacy Marklew o TYF Adventure yn trafod sut mae gweithio i B Corporation a Chyflogwr Cyflog Byw yn gwneud cyflogwyr yn hapus ac yn fwy gweithredol yn y gwaith a chartref, a sut allwch chi ddod o hyd i'r gydbwysedd hon eich hun - fel cyflogwr neu weithiwr.
Stacy yw Rheolwr Cyffredinol TYF Adventure. Mae ei harweinyddiaeth yn seiliedig ar lygad am fanylion, awydd i ddefnyddio busnes fel grym er da, ac adeiladu lle cadarnhaol a chefnogol i weithio sy'n agored i bawb. Mae’n credu mewn tryloywder busnes ac yn annog magu hyder o fewn y tîm er mwyn herio rhwystrau traddodiadol a chreu busnes y maent yn falch ohono.
Bydd ein digwyddiad yn cael ei gynnal dros Zoom rhwng 11.45am-1pm ar Ddydd Gwener 27ain Ionawr. Bydd y sesiwn amser cinio yn darparu cyfle i glywed gan ein siaradwr, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhyngweithio gyda phobl debyg mewn amgylchedd anffurfiol.