Soniwch am eich hun a’ch gwaith
Kay: Rwy’n Uwch Athrawes Ymgynghorol TGCh gyda Cyngor Sir Ceredigion ac rydw i wedi gwneud y swydd ers dros 10 mlynedd. Cyn hynny, roeddwn i’n athrawes TGCh uwchradd.
Eryl: Rwy’n cyd-weithio gyda Kay fel athro ymgynghorol TGCh yng Ngheredigion. Roeddwn i’n athro ysgol gynradd am tua 20 mlynedd cyn derbyn secondiad i weithio gyda’r sir. Erbyn hyn mae’r swydd yn barhaol.
Sut wnaethoch ddechrau cyd-weithio gyda Technocamps?
Kay: Roeddwn i’n ymwybodol o’r gwaith gwerthfawr roedd Technocamps yn ei wneud gydag ysgolion ers sawl blwyddyn. Yn ystod y cyfnodau clo, roedd rhaid i ni fel sir feddwl am ffyrdd gwahanol o weithio ac fe ddechreuon ni gynnal sesiynau dysgu byw er mwyn cyflwyno sgiliau digidol i athrawon a dysgwyr ar yr un pryd. Roeddem wedi gweld y fideos roedd Technocamps wedi eu darparu er mwyn cyflwyno syniadau gwahanol am Scratch ac offer codio amrywiol. Roedd hyn yn un agwedd roeddem ni wedi sylwi fod nifer o athrawon yn eithaf ansicr o sut i gyflwyno i’w dysgwyr. Fe wnaethon ni gysylltu gyda Technocamps i weld os fyddai diddordeb gyda nhw i gydweithio gyda ni gynnal rhai sesiynau. Yna fe wnaethom drefnu gyda Technocamps i gynnal un sesiwn yn cyflwyno sut oedd defnyddio gwahanol agweddau Scratch wedi ei anelu at ddysgwyr yn y sector cynradd. Roedd yr adborth o’r sesiwn yn gadarnhaol iawn felly aethon ni ati i drefnu sesiwn misol yn cyflwyno gwahanol agweddau o Scratch, er enghraifft creu animeiddiad a chreu gêm. Roedd y sesiynau hanner awr hyn yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg yn y bore a Saesneg yn y prynhawn ac hefyd yn cael eu targedu at wahanol oedrannau, o ddysgwyr cynradd i ddysgwyr yn y sector uwchradd.
Eryl: Fe wnaethon hefyd wahodd Technocamps i gynnal gweithdy Scratch rhithiol gyda’n Llysgenhadon Digidol Cynradd ac Uwchradd. Bwriad y Llysgenhadon Digidol yw uwchsgilio grwpiau o ddysgwyr o fewn ein hysgolion yng Ngheredigion mewn amrywiaeth o sgiliau digidol. Yna fe gallent gyd-weithio gyda’r athrawon wrth datblygu sgiliau digidol o fewn eu hysgol drwy gynnal clybiau amser cinio a helpu eu cyfoedion o fewn y dosbarthiadau. Roedd y sesiwn mor llwyddiannus fel wnaethon wahodd Technocamps nôl i gynnal sesiwn codio o fewn Minecraft gyda’n llysgenhadon! Fe wnaeth y llysgenhadon fwynhau y sesiynau a dysgu llawer yn y broses.
Pa ran o’r gwaith sydd wedi bod yn fwyaf buddiol a pham?
Kay: Mae cynnal y sesiynau dysgu byw digidol yn cyflwyno sgiliau amrywiol yn ymwneud â Scratch wedi bod yn ffordd dda o uwchsgilio athrawon a disgyblion ar yr un pryd. Mae’r adborth o’r sesiynau yma wedi bod yn arbennig gyda nifer o’r athrawon yn canmol pan mor glir roedd Luke yn cyflwyno’r cysyniadau mewn ffordd mor ddealladwy . Gan ein bod yn recordio’r sesiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg roedd modd i athrawon wylio’r sesiynau nôl os nad oedden nhw’n medru bod yn bresennol yn y sesiwn dysgu byw neu i ail ymweld ag unrhyw agwedd.
Sut ydych chi’n meddwl fod y sgiliau a’r wybodaeth sydd wedi eu darparu gan Technocamps yn cael eu defnyddio?
Eryl: Mae nifer o’n hathrawon o fewn y sir wedi sôn fod eu hyder a’u dealltwriaeth o ddefnyddio Scratch wedi datblygu wrth wylio’r sesiynau. Mae rhai wedi addasu y syniadau maent wedi gweld er mwyn creu prosiectau eu hun yn defnyddio Scratch.
Oes unrhywbeth arall fyddech yn hoffi ychwanegu??
Kay: Hoffen ni ddiolch yn fawr i Technocamps ac i Luke yn benodol am ei barodrwydd i gydweithio gyda ni ar y proseiectau sesiynau dysgu byw a’r llysgenhadon ac edrychwn ymlaen i gydweithio yn fwy yn y dyfodol.