Ymunwch â ni yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe wrth i ni archwilio digwyddiadau arloesol trwy hanes.
Eleni, am y tro cyntaf, mae Gwyl Wyddoniaeth Abertawe yn eich gwahodd chi a'ch dosbarth i fod yn rhan o'i Rhaglen Ysgolion gyntaf erioed a ddyluniwyd i fywiogi ac ysbrydoli disgyblion ledled y wlad trwy archwilio byd syfrdanol arloesedd. Byddwch yn derbyn pecyn adnoddau cyffrous i'w gwblhau yng nghysur eich ystafell ddosbarth eich hun a chael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn rithwir unigryw gyda Grace Webb, y byddwch efallai'n ei hadnabod o BBC Bitesize a 'Grace's Amazing Machines', i sgwrsio am eich canfyddiadau a darganfyddiadau.
Bydd Grace hefyd yn mynd â chi ar daith trwy'r oesoedd, gan edrych yn ôl dros gyfnodau arloesol ac anhygoel trwy gydol hanes peiriannau gyda chymorth ei beic modur ei hun!
Ymunwch â ni ar Dydd Gwener 22ain Hydref rhwng 9.30am-12pm wrth i ni feithrin chwilfrydedd ac ymgysylltiad disgyblion â gwyddoniaeth!
Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 a dylid cofrestru pob dosbarth ar wahân. Bydd pob dosbarth sy’n cofrestru'n derbyn eu pecyn adnoddau eu hunain a fydd yn cynnwys llu o wahanol weithgareddau i’w cynnal yn ystod y digwyddiad a fydd yn tanio diddordeb y disgyblion mewn arloesedd. Bydd angen ymgymryd â'r gweithgareddau hyn yn yr ystafell ddosbarth dan oruchwyliaeth yr athro.
Yna yn hwyrach yn y bore bydd disgyblion yn cael cyfle i ymuno â gweithdy rhithwir gydag ysgolion ledled y wlad (trwy ddolen y byddwn ni wedi ei hanfon) a gynhelir gan Technocamps a Grace Webb lle byddant yn trafod eich canfyddiadau a'ch profiadau o'r bore. Bydd Grace hefyd yn siarad am rai o'r datblygiadau arloesol anhygoel yn un o'i hoff ddiwydiannau; beicio modur. Mae Grace wedi dwlu ar feicio modur ers iddi fod yn ifanc ac mae hi bellach yn newyddiadurwraig yn y byd modurol.
Yn y gweithdy rhithwir hwn, bydd Grace yn mynd â disgyblion ar daith drwy’r oesoedd, gan edrych yn ôl dros gyfnodau arloesol ac anhygoel trwy hanes y beic modur, gyda chymorth delweddau, rhyngweithio fideo a beic modur Grace ei hun!
Gwybodaeth Ychwanegol: n ogystal â derbyn pecyn adnoddau a chymryd rhan yn y gweithdy rhithwir, mae yna hefyd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer gweithdai mewn person. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithdy gydag aelod o dîm Technocamps,ticiwch y blwch wrth gofrestru (nodwch y bydd hwn ar sail y cyntaf i'r felin). Yna bydd aelod o'r tîm mewn cysylltiad i wneud yr holl drefniadau angenrheidiol.
Noder: wrth gofrestru, archebwch un tocyn i bob ysgol. Os hoffech chi gofrestru sawl dosbarth bydd gennych gyfle i wneud hynny ymhellach yn y broses gofrestru.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd gennym ar gyfer y digwyddiad hwn, felly cadwch eich lle nawr i osgoi cael eich siomi. Rhaid cadw lle cyn Hydref 15fed. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os hoffech ragor o wybodaeth neu am gopi o'r Asesiad Risg cyn cofrestru, e-bostiwch swanseasciencefestival@swansea.ac.uk
https://www.swansea.ac.uk/research/civic-mission/swansea-science-festival/