Mae Technocamps yn cynnal Her Raglennu Genedlaethol ar gyfer Cymru gyfan. Bydd y gystadleuaeth yn galluogi'r disgyblion hynny sydd â diddordeb i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm, yn ogystal â gwella eu gwybodaeth am raglennu cyfrifiadurol, a hynny mewn ffordd hwyliog ac arloesol.
Yr her yw creu darn o feddalwedd, gan ddefnyddio "Arwyr Gwyddoniaeth" fel thema. Gallwch ganolbwyntio ar astudio arwyr ffuglennol (e.e. Superman, Wonder Woman, Spiderman, ac ati), neu ar unrhyw agwedd ar wyddoniaeth neu ar arwyr gwyddoniaeth bywyd go iawn (gallai hyn gynnwys gwyddonwyr tebyg i Ada Lovelace, Mark Zuckerberg, Tim Berners-Lee neu Alan Turing – cyfrifiadurwyr, Albert Einstein – ffisegydd, Marie Curie – cemegydd, Stephen Hawking – ffisegydd ac astrolegwr, ac ati).
Mae'n rhaid bod gan eich meddalwedd ddyluniad gwreiddiol, a gall fod ar ffurf gêm, gwefan, ap, cwis, neu animeiddiad. Gallwch ddefnyddio unrhyw iaith godio i greu'r feddalwedd, er enghraifft Scratch, Python, Greenfoot, Visual Basic, App Inventor neu HTML, ac ati, a gallwch hefyd wneud defnydd o unrhyw gyfrifiadur Raspberry Pi, BBC Micro:bit neu git Arduino a allai fod yn eich ysgol.
Yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth, gall grwpiau yn eich dosbarth yn yr ysgol, disgyblion o'ch ysgol gynradd leol, neu eich Technoclub cyfan gyfrannu at ddatblygu eich meddalwedd. Fodd bynnag, ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth, bydd angen i chi enwebu tîm sy'n cynnwys rhwng dau a chwech o bobl o'r ysgol a fydd yn gallu mynd i'r rownd derfynol a'r diwrnod gwobrwyo. Mae'n bwysig bod y grŵp hwn o allu cymysg.
Am unrhyw gyngor, cwestiynau neu gefnogaeth o ran Gêm Codau Technocamps – Her Arwyr Cynnwrf Cyfrifiadureg, mae croeso i chi gysylltu â Kate Stevens – Cydgysylltydd Prosiect Rhanbarthol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein Pecyn Gwybodaeth am Ysgolion http://www.technocamps.com/storage/app/media/GameofCodes_Competition_2016_SchoolsInformationPack-Cymraeg.pdf