A'r enillwyr yw...
Roedd ein cystadleuaeth newydd, mewn partneriaeth ag Energy Saving Trust a NEST, yn gofyn i ddisgyblion ddylunio eu gêm eu hunain, gan ddefnyddio unrhyw feddalwedd rhaglennu, a fyddai’n gwneud tŷ yn fwy eco-gyfeillgar.
Enillydd: Spuddy and Co (Adam, Ethan, Leo, Cerys), St Martin’s Comprehensive School
Ail Le: Tîm Penguin (Tilda ac Oscar), derbyn addysg o'r cartref
Trydydd Lle: Tech & Co (Jack, Dawid and Jack), Ysgol Gyfun Aberdaugleddau
Bydd y gêm fuddugol yn cael ei chyhoeddi ar wefan Energy Saving Trust a derbyniodd yr enillwyr daleb One4All gwerth £100 i'w hun a £2,000 i'w ysgol wario ar offer. Derbyniodd yr ail orau daleb werth £25 yr un i'w hun a £1,000 ar gyfer elusen o'u dewis, a derbyniodd y tîm a ddaeth yn drydydd daleb werth £210 yr un, yn ogystal â £500 i'w ysgol. Derbyniodd pob ymgeisydd arall taleb werth £10 yr un hefyd, er mwyn diolch iddynt am eu hamser, creadigrwydd ac ymdrech.
Cafodd y ceisiadau eu hasesu ar:
1. Dilyn y Briff - A yw'r gêm yn hyrwyddo arbed ynni?
2. Gwreiddioldeb – A yw'r gêm yn unigryw?
3. Profiad – Ydyn ni eisiau chwarae'r gêm?
Roedd y safon yn uchel iawn, gyda dros 90 o bobl wedi cofrestru i gyd. Dyma rai o'r gemau:
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran! Cadwch eich llygaid allan am gystadlaethau eraill cyn bo hir.