Ar yr 8fed o Fawrth, 2018 yng Ngwesty'r Marriott yn Abertawe, cynhaliodd ITWales eu deunawfed Cinio Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a noddwyd gan Technocamps a'r BCS. Mynychodd dros 190 o bobl o bob rhan o Dde Cymru y digwyddiad i ddathlu Menywod mewn TG Cymraeg, a oedd eleni'n canolbwyntio ar 'Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf'.
Trefnodd TGCymru y digwyddiad hwn am y tro cyntaf yn 2000, a hynny er mwyn tynnu sylw at y niferoedd bach iawn o ferched sy'n dewis astudio Cyfrifiadureg, a'r bwlch enfawr sy'n bodoli rhwng y rhywiau ym maes TGCh a chyfrifiadura. Yn anffodus, ychydig iawn sydd wedi newid ers hynny, ac rydym yn parhau i geisio mynd i'r afael â'r broblem hon. Ac yn ddiau, mae hon yn broblem: ym myd Cyfrifiadura y ceir yr anghydbwysedd gwaethaf rhwng y rhywiau ymhlith myfyrwyr sy'n astudio pynciau STEM ar lefel Addysg Uwch – lle mae anghydbwysedd gwael yn bodoli yn gyffredinol – a hynny er gwaethaf astudiaethau amrywiol sy'n awgrymu bod menywod yn creu gwell codau cyfrifiadurol na dynion.
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Kev Johns o Sain Abertawe gydag ystod o siaradwyr ysbrydoledig o bob cwr o'r DU. Y siaradwyr oedd:
Clare Riley, Rheolwr Ymgysylltu AU gan Microsoft Education
Janner Herd, Ymgynghorydd E-ddysgu
Emily Bristow, Pennaeth Awtomeiddio Gwybyddus, GCI
Hoffem ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad, y siaradwyr a Kev Johns am gefnogi'r digwyddiad ac rydym eisoes yn cynllunio digwyddiad y flwyddyn nesaf.