Rydyn ni'n cynnal cyfres o weminarau gyrfaoedd ar gyfer plant 11-18 oed i'w helpu i ddeall pa rolau sydd ar gael iddynt, sut y byddent yn mynd ati i weithio yn y diwydiant hwnnw, sut y gall cynghorwyr gyrfaoedd eu cefnogi a beth ddylai eu camau nesaf fod.
Ym mis Mehefin, byddwn yn cynnal cyfres o weminarau gydag arbenigwyr yn y diwydiant i roi cyngor i blant ysgol uwchradd am eu dyfodol. Gall disgyblion gofrestru gyda'u dosbarth ar gyfer digwyddiad ar ôl ysgol neu gofrestru'n unigol a gwylio gartref. Os na allwch chi ddod i'r slot amser, cofrestrwch beth bynnag ac anfonwn y recordiad atoch wedyn.
3pm, Dydd Mawrth 8fed Mehefin:
Peirianneg: Beth yw e? Pam dylwn i ei wneud e? Sut all e achub y blaned?
Gyda Lydia Amarquaye a Carly Nettleford o'r Sefydliad Peirianneg Fecanyddol
Mae Carly Nettleford yn beiriannydd cymwys, brwdfrydig gyda dros wyth mlynedd o brofiad. Gyda chefndir mewn gweithgynhyrchu, peirianneg maes a pholisi a set sgiliau gref, mae hi wedi ennill y gallu i addasu i unrhyw amgylchedd peirianneg. Mae hi wedi dangos gallu i reoli prosiectau, gan flaenoriaethu tasgau i gwrdd â therfynau amser wrth gadw at reoliadau.
Dechreuodd taith beirianneg Lydia gyda rhaglen Headstart EDT, ac yna Blwyddyn mewn Lleoliad Diwydiant yn Delphi Technologies, Cwmni Dylunio a Gweithgynhyrchu Systemau Tanwydd Cerbydau Masnachol. Ar ôl cwblhau ei MEng mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Brunel, dychwelodd Lydia i Delphi Technologies, gan weithio ei ffordd i fyny i Uwch Beiriannydd yn y Tîm Datblygu Cynnyrch.
Fel Cynghorydd Polisi Addysg, mae Lydia yn gweithio i ddatblygu swyddi polisi a strategaeth addysg ar gyfer y Sefydliad. Lydia yw Cynghorydd Datblygiad Proffesiynol y Sefydliad, gan gynnig cwnsela peirianneg ar gyfer aelodau a gwneud penderfyniadau achrediedig. Mae hi'n frwdfrydig am wneud Peirianneg yn hygyrch i bawb a sicrhau bod addysg beirianneg yn cynnal ei berthnasedd i ddarparu'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer y dyfodol.
3pm, Dydd Mawrth 15fed Mehefin:
Cynghorwyr Gyrfaoedd: Pwy ydyn nhw a sut allan nhw fy helpu?
Byddwn yn siarad â:
Ruth Morgan: Cynghorydd Gyrfaoedd STEM, Cyfadran Cyfridiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth Prifysgol De Cymru
Angela Jones: Gyrfaoedd Cymru, ardal Gogledd Powys
Rhys Davies: Gyrfaoedd Cymru, ardal Pen-y-bont ar Ogwr
Natalie Lewis: Cynghorydd Cyflogadwyedd Go Wales a Phrifysgol De Cymru
3pm, Dydd Mawrth 22ain Mehefin:
Busnes a Diwydiant: Sut alla i fod yn fos fy hun mewn STEM?
Gydag Emma Tamplin o Chwarae Teg a Dr Youmna Mouhamad, Cymrawd Menter AG a Chyfarwyddwr Myana Naturals