Dyluniwyd ein rhaglen DPP newydd am ddim i gefnogi athrawon ysgolion uwchradd i gyflawni'r TGAU Technoleg Ddigidol newydd yng Nghymru. Mae'r cwrs yn hollol rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cwrs yn rhedeg o fis Medi 2021-Mawrth 2022, ond nid oes rhaid mynychu pob sesiwn. Gall dyddiadau a phynciau'r sesiynau newid. Bydd sesiynau'n rhedeg rhwng 4.15pm a 5.45pm ar y dyddiadau isod:
Uned A – Deall y Byd Digidol
Bloc | Pwnc | Dyddiad y sesiwn fyw |
1 | Data Analog a Digidol a Dyfeisiau Digidol | 9fed Medi 2021 |
2 | Y Rhyngrwyd | 23ain Medi 2021 |
3 | Systemau Gweithredu | 7fed Hydref 2021 |
4 | Cylch Datblygu Systemau | 21ain Hydref 2021 |
Uned B – Y Byd Digidol sy'n Newid
Bloc | Pwnc | Dyddiad y sesiwn fyw |
5 | Gwasanaethau'r Cwmwl | 11eg Tachwedd 2021 |
6 | Seiberddiogelwch | 25ain Tachwedd 2021 |
7 | Technolegau Digidol sy'n Newid | 9fed Rhagfyr 2021 |
8 | Cyfathrebiadau Digidol | 6ed Ionawr 2022 |
9 | Creu Asedau a Datblygu Cyfryngau | 20ed Ionawr 2022 |
Uned C – Dadansoddeg Data, Datblygu Gemau ac Animeiddio
Bloc | Pwnc | Dyddiad y sesiwn fyw |
10 | Ymchwilio a Dadansoddi Data | 3ydd Chwefror 2022 |
11 | Datblygu Gemau | 17eg Chwefror 2022 |
12 | Datblygu Gemau | 10fed Mawrth 2022 |
13 | Animeiddio | 24ain Mawrth 2022 |
14 | Animeiddio | 7fed Ebrill 2022 |
15 | Datblygu Gwefannau | 5ed Mai 2022 |
16 | Datblygu Gwefannau | 19eg Mai 2022 |