Cynhelir y digwyddiad yn flynyddol yn y Senedd ac Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, ac mae'n cynnig cyfle i gwmnïau a phrosiectau arddangos eu gweithgareddau. Trefnwyd y digwyddiad gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, a daeth cynrychiolwyr o ddiwydiannau sy'n ymwneud â gwyddoniaeth ynghyd gyda chynrychiolwyr o sefydliadau addysgol o bob cwr o Gymru, gan deithio i Gaerdydd i glywed prif siaradwyr ac i ddysgu gan ei gilydd am yr holl ymgysylltu gwahanol sy'n digwydd i hyrwyddo'r agenda STEM ledled y wlad.
Cyfarfu'r Rheolwr Gweithrediadau, Stewart Powell, a'r Rheolwr Rhaglen, Julie Walters, â phrosiectau eraill, Gweinidogion y Llywodraeth, a ffigurau allweddol eraill o Ddiwydiant. Y nod, yn y pen draw, oedd meithrin perthnasoedd a phartneriaethau newydd, a chodi proffil STEM yn rhan sylfaenol a hanfodol o economi Cymru.
Roedd digwyddiad eleni yn arbennig o berthnasol ac amserol, gyda'i ffocws ar addysg a sgiliau. Mae hyn yn dilyn lansiad diweddar y Cwricwlwm drafft i Gymru ddiwedd mis Ebrill, sy'n darparu ar gyfer argymhellion Dyfodol Llwyddiannus, sef yr adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru, a gynhaliwyd yn 2015. Mae'r cwricwlwm newydd yn cynnwys newidiadau ysgubol i'r hyn a gyflwynir ar hyn o bryd mewn ysgolion. Yn fwyaf amlwg ar gyfer Technocamps, cydnabyddir bod meddwl cyfrifiadurol yn sgìl trawsgwricwlaidd yn rhan o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, gyda chyfrifiadura ac agweddau eraill ar gyfrifiadureg yn cael eu cynrychioli yn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg newydd o 3-16 oed.
Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i bobl weld sut y gall Technocamps chwarae rôl o ran cyflwyno'r cwricwlwm hwn a hefyd helpu athrawon i baratoi ar gyfer y newidiadau cyn gweithredu'r cwricwlwm yn 2022.
Roedd Tom Crick MBE, Athro Addysg a Pholisi Digidol ym Mhrifysgol Abertawe, yn un o'r prif siaradwyr yn y digwyddiad, a bu yntau'n allweddol o ran llunio'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
“Mae Cymru ar drothwy diwygio'r cwricwlwm yn sylweddol, yn enwedig o ran Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy'n rhan o genhadaeth genedlaethol ehangach ar gyfer addysg a sgiliau sy'n tanategu ein dyheadau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd yn y dyfodol. Mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae rhan arweiniol yn llawer o'r gwaith hwn – a bydd yn para i wneud hynny – o weithgareddau cyfoethogi STEM cenedlaethol dylanwadol gyda Technocamps, i Ysgol Addysg newydd, a arweinir gan ymchwil, ac a fydd yn cynnig addysg gychwynnol i athrawon o fis Medi 2020 ymlaen.”
Tom Crick MBE