Roedd Technocamps yn falch iawn o gael arwain rhaglen newydd, arloesol sydd wedi’i chynllunio i annog menywod ifanc i ystyried gyrfaoedd STEM. Yr wythnos ddiwethaf, lansiwyd GiST Cymru ym Mhrifysgol De Cymru, gyda dros 130 o ferched o ysgolion ledled y De-ddwyrain a’r Cymoedd yn bresennol, a hynny er mwyn meithrin dirnadaeth a dealltwriaeth o’r cyfleoedd sy’n agored iddynt ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Cydnabyddir yn eang fod merched yn cael eu tangynrychioli mewn Diwydiannau STEM, ac un o nodau Rhaglen Technocamps, a ariennir gan Ewrop, yw ceisio unioni’r fantol. Arweiniwyd GiST Cymru gan y tîm ym Mhrifysgol De Cymru, gyda chymorth gan ein partneriaid academaidd eraill: Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Caerdydd.
Cafodd y merched eu hysbrydoli gan amrywiaeth o brofiadau gwahanol a’u galluogodd i gysylltu â menywod sy’n gweithio yn STEM (trwy gyfrwng trafodaethau a mentora), a rhoddwyd cyfle iddynt wneud ‘gwaith ymarferol’ mewn gweithdai a sesiynau sgiliau. Lansiwyd gweithgareddau’r dydd gyda phrif areithiau gan Emma Tamplin o Chwarae Teg, a Wendy Sadler MBE o Science Made Simple, a siaradodd yn helaeth am ei phrofiadau ei hun ym maes Ffiseg a Cherddoriaeth.
Bu Technocamps yn cydweithredu â nifer o bartneriaid allanol er mwyn sicrhau bod cynllun GiST Cymru yn amrywiol o ran cynnwys ac yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr brofi ac archwilio pynciau STEM mewn ffordd hwyliog a diddorol. Roedd y gweithdai yn cynnwys rhaglenni ceir awtonomaidd, adeiladu rhannau awyrennau, gwifrio plygiau, diffiwsio bomiau gan ddefnyddio setiau pen rhith-wirionedd, mesur cerddediad dinosoriaid, seibrddiogelwch ac ymchwil i gelloedd canser. Roedd pob un o’r sesiynau dan arweiniad menywod sydd wedi’u sefydlu eu hunain mewn gyrfaoedd a ddominyddir fel arfer gan ddynion. Bydd gweithgareddau dilynol yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf, a byddwn yn gweithio gydag ysgolion i fonitro cynnydd ein holl arloeswyr GiST er mwyn gweld pa effaith y mae’r rhaglen wedi’i chael. Byddwn hefyd yn lansio digwyddiadau eraill sy’n adeiladu ar y brand GiST Cymru newydd.
Roedd yr adborth gan y disgyblion i gyd yn gadarnhaol dros ben, ac roedd pob un ohonynt wedi cael blas ar y cyfle i gymryd rhan mewn ychydig o Wyddoniaeth a Thechnoleg ymarferol:
“Roeddwn wir wedi mwynhau digwyddiad heddiw. Mwynheais yr holl weithgareddau, ond fy hoff weithgaredd oedd y rhith-wirionedd. Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfle.”
Disgybl
Aeth Laura Roberts, y Cydgysylltydd Rhanbarthol ar gyfer Technocamps, ati i grynhoi nodau rhaglen GiST:
“Nod GiST Cymru yw rhoi’r hwb ychwanegol hwnnw i ferched ledled Cymru y mae ei angen arnynt i gael mynediad at weithgareddau STEM. Mae GiST wedi rhoi cyfle i’r disgyblion hyn wneud gweithgareddau STEM ymarferol heb y pwysau a’r stigma sy’n dweud: ‘mae’r pynciau hyn ar gyfer bechgyn’. Heb unrhyw fechgyn yn y golwg, roedd pob un o’r merched a oedd yn bresennol yn y digwyddiad wedi mwynhau’r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau y byddent, efallai, wedi’u hosgoi yn y gorffennol. Rwyf mor falch o’r ffaith bod pob un o’r wyth gweithdy dan arweiniad modelau rôl STEM benywaidd, cryf o bob rhan o’r sector, menywod y mae eu gwaith, eu bywyd a'u hegni yn ymroddedig i STEM.”
Laura Roberts
Roedd Jo Farag, y Pennaeth TG yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, wedi disgrifio’r diwrnod yn un ‘anhygoel’, a dywedodd fod ei disgyblion wedi gadael y digwyddiad wedi’u ‘hysbrydoli’n wirioneddol’ i symud ymlaen â gweithgareddau STEM yn yr ysgol.
Diolchodd Danielle White o Ysgol Gyfun Rhydywaun i’r tîm am ddigwyddiad anhygoel:
“Diolch i chi am drefnu diwrnod diddorol a chynhyrchiol. Roedd y merched i gyd wedi mwynhau eu hunain yn llwyr, ac maent yn awyddus i ddod eto.”
Danielle White
Roedd hyd yn oed yr hwyluswyr wedi’u hysbrydoli. Roedd Hayley Pincott, Llysgennad STEM y GIG, yn llawn cyffro am gael bod yn rhan o ddigwyddiad GiST Cymru:
“Roedd yn gyfle gwych i mi arddangos yr hyn yr ydym yn ei wneud fel labordy diagnostig, a meithrin ymwybyddiaeth merched o Wyddor Biofeddygol a Phatholeg a dewis posibl o ran gyrfa.”
Hayley Pincott
Hoffai Technocamps ddiolch i’n holl bartneriaid am eu cymorth yn Lansiad GiST Cymru, ac am eu gwaith parhaus gyda ni i yrru’r agenda STEM yn ei blaen yng Nghymru.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Hayley Pincott, NHS STEM Ambassador
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eich help, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol!