Beth yw Technocamps?


Mae Technocamps yn rhaglen ddigidol eang ei chyrhaeddiad. Ein prif nod yw cefnogi uwchsgilio digidol ledled Cymru trwy ein partneriaethau cryf â holl brifysgolion Cymru. Mae ein holl raglenni am ddim i'r derbynnydd, gan eu bod yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru a CCAUC. Maent yn cael eu hwyluso gan ymrwymiad prifysgolion Cymru sy'n gweithio ar y cyd.

Yn yr Ysafell Ddosbarth
Ein nod yn y pen draw yw cynyddu ymgysylltiad pobl ifanc â phynciau STEM. Rydym yn gweithio gydag ysgolion uwchradd trwy ein rhaglen Cyfoethogi STEM ac ysgolion cynradd trwy ein rhaglen Playground Computing. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i athrawon i'w paratoi at yr heriau o ddarparu amgylchedd technegol a deinamig.

Y tu allan i ysgolion
Mae ein hymrwymiad i addysg gyfrifiadurol hefyd yn ymestyn y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol. Rydym yn darparu cyfleoedd uwchsgilio digidol i bobl mewn cyflogaeth, ynghyd â chyfleoedd amrywiol ar gyfer dysgu gydol oes. Mae ein rhaglen Gradd-brentisiaeth a ariennir yn llawn yn cynnig cyfle i unigolion 'ennill cyflog a dysgu' trwy weithio tuag at radd pan fyddant mewn cyflogaeth lawn-amser. Rydym hefyd yn gweithio gyda busnesau a diwydiant i greu cyfleoedd i sicrhau bod y biblinell ddigidol yn cael ei chynhyrchu'n lleol, gan helpu i ddarparu swyddi o ansawdd uchel a chefnogi economi Cymru.

Cyrff Cyllido


UK Government Logo
SPF Levelling up Logo
Welsh Government Logo
HEFCW Logo

Prifysgolion Partner


Swansea University Logo
Bangor University Logo
University of South Wales Logo
Cardiff University Logo
Wrexham Glyndwr University Logo
Aberystwyth University Logo
Cardiff Metropolitan University Logo
University of Wales Trinity Saint David

Grŵp Llywio



Rhanddeiliaid



Llywodraethu

Technocamps Steering Group photo
Technocamps team photo