Image

Ymunwch â ni ar gyfer Cynhadledd Addysg Technocamps, digwyddiad datblygiad proffesiynol deinamig a gynlluniwyd ar gyfer addysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd. Cymerwch ran mewn gweithdai ymarferol a chael mewnwelediadau gwerthfawr i gyfoethogi eich dulliau addysgu a chroesawu'r cwricwlwm newydd i Gymru.

Dydd Iau 24ain Hydref yn Stadiwm Swans.com | Mae’r gynhadledd hon AM DDIM.

Sesiynau Athrawon Cynradd:

  • Gweithgareddau Unplugged ar gyfer y Cwricwlwm Newydd: Dysgwch sut i ymgorffori gweithgareddau unplugged sydd yn cyd-fynd â chamau dilyniant y cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd y gweithgareddau hyn yn helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau meddwl yn rhesymegol a datrys problemau hanfodol heb yr angen am cyfrifiaduron.
  • Logio Data gyda micro:bit: Darganfyddwch sut i ddefnyddio'r micro:bit ar gyfer gweithgareddau logio data yn eich ystafell ddosbarth. Annog disgyblion i gasglu a dadansoddi data trwy brosiectau rhyngweithiol ac ymarferol, gan wneud dysgu yn hwyl ac yn addysgiadol.

Sesiynau Athrawon Uwchradd:

  • Ysbrydoli Mwy o Ferched mewn Cyfrifiadura: Clywch gan Rachel Roberts o Ysgol Gyfun Tregŵyr am ei phrofiad o gynyddu nifer y merched sydd yn cymryd pynciau cyfrifiadura.
  • Pontio o Scratch i Python gyda Pytch: Archwiliwch Pytch, offeryn pwerus a gynlluniwyd i helpu disgyblion i drosglwyddo o raglennu bloc yn Scratch i raglennu testun yn Python. Rhowch y sgiliau sydd eu hangen ar eich disgyblion i symud ymlaen yn eu taith codio.
  • Cymwysiadau trawsgwricwlaidd micro: Dysgwch sut i integreiddio micro:bit i wahanol bynciau ar draws y cwricwlwm uwchradd a'u rhaglennu yn Python. Darganfyddwch brosiectau arloesol sy'n gwneud dysgu'n fwy deniadol a pherthnasol trwy ymgorffori technoleg mewn gwahanol feysydd astudio.

Don’t miss this opportunity to connect with fellow practitioners in Wales, share ideas, and take away practical tools and techniques to transform your classroom. Together, let's inspire and educate the next generation of digital innovators!

Sign ups for this event has now closed.