Mae Pytch newydd lansio eu ap gwe newydd sbon wedi’i gynllunio i helpu myfyrwyr i ysgrifennu eu rhaglenni eu hunain, gyda’r nod o wneud codio Python yn hygyrch i ddysgwyr o bob lefel trwy ddarparu offer ac adnoddau rhyngweithiol. Mae Pytch yn defnyddio gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli gan y dysgwyr o ieithoedd rhaglennu blociau fel Scratch i roi mantais iddynt wrth raglennu ieithoedd mwy datblygedig, yn seiliedig ar destun fel Python. Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r ap ar gael ar-lein trwy wefan Pytch, gan gynnig profiadau dan arweiniad, gan ganiatáu i ddefnyddwyr lywio trwy'r broses o ddatblygu gêm gam wrth gam.
Wedi'i ddatblygu ar y cyd â dros 300 o fyfyrwyr a 30 o addysgwyr, mae Pytch wedi'i fireinio i ddiwallu anghenion dysgwyr ac addysgwyr. Mae gweithgareddau dosbarth wedi'u datblygu'n ofalus, gydag adborth gan ddefnyddwyr yn cyfrannu at lywio'r rhaglen. Mae'r nodweddion newydd wedi'u treialu gyda myfyrwyr o TU Dulyn ac wedi cael adborth cadarnhaol iawn.
Mae Technocamps yn cydweithio â Pytch i gyflwyno profiadau codio arloesol i ystafelloedd dosbarth ledled Cymru, er mwyn grymuso dysgwyr ifanc i godio mwy.
Dywed Dr Lee Clift o Technocamps “Mae cael teclyn pontio mor arloesol a all drosoli gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli i’n dysgwyr mor effeithiol wrth addysgu sgiliau newydd, ac mae Pytch yn gwneud hyn yn berffaith.”