Mae’r gweithdy micro:bit hwn yn ymdrin ag elfennau o Feysydd Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Bydd disgyblion yn dysgu hanfodion rhaglennu bloc a sut i ddefnyddio datganiadau amodol i wneud penderfyniadau mewn rhaglenni cyfrifiadurol. Byddant hefyd yn rhaglennu eu dulliau eu hunain o gyfathrebu'n ddi-wifr â'u ffrindiau, gan ganolbwyntio ar god Morse gan ddefnyddio'r micro:bit.
I dderbyn gweithdai neu gyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim ar ddefnydd y micro:bit yn eich ysgol yng Nghymru, cysylltwch â info@technocamps.com