Rydym yn gyffrous i rannu ein hadroddiad blynyddol 2024. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg ar y mentrau amrywiol y mae Technocamps wedi bod yn rhan ohonynt drwy gydol 2024. Adlewyrchir – ymhlith llawer eraill – ein hymgysylltiadau ag ysgolion cynradd drwy ein rhaglen Playground Computing; ein hymgysylltiadau ag ysgolion uwchradd; ein mentrau ar gyfer uwchsgilio athrawon drwy ein rhaglen Technoteach; ein gweithgareddau ymgysylltu busnes â’n rhaglen IoC yng Nghymru; a’n mentrau ymchwil o fewn ein cangen ymchwil Addysg, Hanes ac Athroniaeth (EHP). Gyda chynnydd mewn technoleg sy’n galluogi AI, bydd Technocamps mor berthnasol ac angenrheidiol wrth symud ymlaen ag y bu hyd yn hyn.
Ar y cyfan, rydym wedi cael blwyddyn lwyddiannus, diolch i ymrwymiad ein haelodau staff gwych a’n partneriaid, a chyllid gan Lywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) a Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.