Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth, byddwn yn cynnal digwyddiadau hyfforddi athrawon, i'ch helpu i wella'ch sgiliau i allu cyflwyno sgiliau Cyfrifiadureg o'r Disgrifiad Dysgu, 'Cyfrifiadureg yw sylfaen ein byd digidol' o'r Maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg, yn ogystal â sgiliau o'r Elfen 'Datrys problemau a modelu' o Llinyn 'Data a Meddylfryd Cyfrifiadurol' y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Cyflwyniad i Scratch Jr A Chyfrifiadura Yn Y Cyfnod Sylfaen | Date: Friday 24th January 2025 Amser: 9 yb i 3:30 yp Lleoliad: Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru Description: An introduction to the Scratch Junior programming language. Learn about the free application, that can be used to introduce Foundation Phase pupils to programming. You will also learn about different unplugged activities that can be used to teach pupils about computers, without using computers. |
Cyflwyniad i Scratch | Date: Thursday 13th February 2025 Amser: 9 yb i 3:30 yp Lleoliad: Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru Disgrifiad: Cyflwyniad i iaith raglennu Scratch. Dysgwch am yr offeryn ar-lein rhad ac am ddim, y gellir ei ddefnyddio i ddysgu sgiliau rhaglennu disgyblion, trwy wneud rhaglenni amrywiol. Byddwch yn cael eich cyflwyno i wneud cwis a gêm, y gellir eu haddasu i gyd-fynd â gwahanol brosiectau, yn ogystal â rhaglenni eraill. |
Cyflwyniad i BBC micro:bit | Date: Thursday 13th March 2025 Amser: 9 yb i 3:30 yp Lleoliad: Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru Disgrifiad: Cyflwyniad i BBC micro:bits. Dysgwch am y cyfrifiaduron mini y gellir eu rhaglennu, i ddysgu sgiliau rhaglennu disgyblion. Byddwch yn dysgu sut i raglennu'r micro:bit i: newid ei ddangosydd mewn gwahanol ffyrdd; ymateb i'w botymau yn cael eu pwyso; ymateb i'w synwyryddion yn synhwyro newidiadau; a llawer mwy. |
Cyflwyniad i MakeCode Arcade | Date: Friday 28th March 2025 Amser: 9 yb i 3:30 yp Lleoliad: Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru Disgrifiad: Cyflwyniad i iaith raglennu MakeCode Arcade. Dysgwch am yr offeryn ar-lein rhad ac am ddim, y gellir ei ddefnyddio i ddysgu sgiliau rhaglennu i ddisgyblion, trwy wneud gemau arddull arcêd. Byddwch yn cael eich cyflwyno i wneud a rheoli sprites a chefndiroedd, trwy greu gemau amrywiol, gan gynnwys gemau platfform. |
Ar gyfer yr holl ddigwyddiadau, bydd lluniaeth (te/coffi) yn cael ei ddarparu, ynghyd â thaleb pryd, ar gyfer cinio yn Stilts (cwrt bwyd PDC).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â rhys.williams@technocamps.com.
I gofrestru ar gyfer digwyddiad, llenwch y ffurflen hon: https://forms.gle/pdy1XKJJSBx8jPyD7, neu e-bostiwch rhys.williams@technocamps.com.