Mae athrawon a disgyblion ysgolion cynradd ledled y DU wedi bod yn cymryd rhan yn arolwg micro:bit arolwg iard chwarae BBC. Ymchwiliad cyffrous i helpu plant 7-11 oed i fynd i’r afael â gwyddor data a sgiliau digidol mewn ffordd sy’n berthnasol i’w bywydau bob dydd.
Yn ôl ym mis Mawrth, cawsom y fraint o gynnal y Digwyddiad Lansio micro:bit ar gyfer ysgolion ledled De Cymru, ac mae’n anhygoel gweld canlyniadau’r fenter hon bellach yn datblygu.
Mae’r prosiect hwn yn amlygu pŵer cydweithio, arloesi, a dysgu ymarferol mewn ystafelloedd dosbarth, gan rymuso disgyblion â thechnoleg a chreadigedd. Mae disgyblion wedi mesur eu hardaloedd chwarae, wedi archwilio gwahaniaethau tymheredd rhwng arwynebau naturiol a synthetig, wedi olrhain pa mor fywiog oedd eu hamser egwyl, ac wedi cyfrif llawer o wahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid; gan ddarganfod llawer o bethau newydd am eu meysydd chwarae ar hyd y ffordd!
I gael gwybod mwy, ewch i wefan BBC micro:bit – cewri codio. Am yr adroddiad canlyniadau llawn cliciwch yma.