Cwrs Dysgu Proffesiynol Ar-lein Newydd i Athrawon Ysgolion Cynradd Yn dechrau ym mis Ionawr!

Paige JenningsNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau, Professional Learning

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein rhaglen Dysgu Proffesiynol (PL) ar gyfer athrawon ysgolion cynradd sydd ar y gweill ym mis Ionawr!

Nod y rhaglen rad ac am ddim hon yw gwella gwybodaeth athrawon am Gyfrifiadureg a Meddylfryd Cyfrifiadurol a’u helpu i gymhwyso’r sgiliau hyn yn yr ystafell ddosbarth ac ar draws yr ysgol.

Mae’r sesiynau’n cysylltu â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac yn gweithio ar draws MDPh y cwricwlwm newydd.

Bydd y 10 x sesiwn rhithwir yn digwydd ar Microsoft Teams o 3:30 - 5:30 pm. Mae’r sesiynau fel a ganlyn::

Sesiwn 1 - 09/01/2025 - Cyflwyniad i Gyfrifiadureg a Meddylfryd Cyfrifiadurol;

Sesiwn 2 - 16/01/2025 - Cyflwyniad i Algorithmau;

Sesiwn 3 - 23/01/2025 - Cyflwyniad i Raglennu Scratch - Gêm Erlid;

Sesiwn 4 - 30/01/2025 - Cwis Scratch;

Sesiwn 5 - 06/02/2025 - Gêm Drysfa Scratch;

Sesiwn 6 - 13/02/2025 - Offeryn Lluniadu Siapau Scratch;

Sesiwn 7 - 20/02/2025 - Cyfrifiannell Scratch;

Sesiwn 8 - 06/03/2025 - Cyflwyniad i Weithgareddau di-blwg â Scratch JR;

Sesiwn 9 - 13/03/2025 - Cyflwyniad i BBC micro:bit;

Sesiwn 10 - 20/03/2025 - Scratch Fel Teclyn Datrys Problemau.

I gofrestru e-bost, rhys.williams@technocamps.com.