Technocamps Caerdydd yn Lansio Canolfan Ddysgu Minecraft Am Ddim i Addysgwyr gan ddechrau ym mis Ionawr

Paige JenningsDigwyddiad, Newyddion

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Technocamps Caerdydd yn cynnal Canolfan Ddysgu Minecraft AM DDIM i roi cyfle i athrawon ddatgloi potensial Addysg Minecraft yn eu hystafell ddosbarth a chyfoethogi Cwricwlwm i Gymru.

Cynhelir 4 sesiwn wythnosol gan academydd o Brifysgol Caerdydd a hyfforddwr ardystiedig Minecraft. Argymhellir yn gryf eich bod yn mynychu pob un o'r 4 sesiwn. 

Dyddiadau: Yn dechrau dydd Mercher 15 Ionawr, bob dydd Mercher am 4 wythnos

Wythnos 1 - Dydd Mercher 15 Ionawr
Wythnos 2 - Dydd Mercher 22 Ionawr
Wythnos 3 - Dydd Mercher 29 Ionawr
Wythnos 4 - Dydd Mercher 5ed Chwefror

Cyfeiriad: Ystafell 0.34, Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd Adeilad Abacws, Ffordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4AG

Amseroedd: 4:30pm – 6:30pm

Bydd angen i chi ddod â’ch gliniadur gyda chi i bob sesiwn a bydd angen manylion eich cyfrif hwb arnoch i allu cyrchu’r rhaglen. 

I gofrestru ar gyfer y sesiynau llenwch y ffurflen isod:
https://forms.office.com/e/ihtHpXPc08