Technocamps yn sicrhau cyllid SPF i helpu i hybu sgiliau digidol lleol

Paige JenningsNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Rydym yn gyffrous i rannu ein bod wedi derbyn hwb ariannol sylweddol gan awdurdodau lleol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gyflwyno hyfforddiant sgiliau digidol arloesol i bobl ifanc ac oedolion. Bydd y cyllid, sy'n werth dros £700,000, yn cael ei ddefnyddio i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'r nod yw gwella llythrennedd digidol yn y rhanbarth.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Darllenwch yr erthygl lawn o Brifysgol Abertawe.