Llwyddiant Ysgol Haf Uwch Technocamps!

Paige JenningsNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Yr haf yma, gwnaethon ni lansio ein rhaglen newydd o ysgolion haf, Technocamps Uwch, ar gyfer oedrannau 16+, ym HQ Technocamps, Prifysgol Abertawe. Roedd y rhaglen yn cynnig profiadau ymarferol mewn meysydd sydd ar flaen y gad o technoleg fel Adeiladu Gwefannau, Dysgu Peiriant, Modelu 3D ar gyfer Celf a Diwydiant, a Roboteg. Roedd yn hynod boblogaidd, gan roi sgiliau amhrisiadwy a gwybodaeth ymarferol i gyfranogwyr yn meysydd sydd yn ddatblygiedig yn dechnolegol.

Roedd y cyfranogwyr yn frwdfrydig am eu profiadau, gydag un disgybl hynod gyffrous yn rhannu:

"Hwyl iawn! Byddwn i wrth fy modd yn cael cynnig arall a gwneud mwy gyda'r Robotiaid Mindstorm!"

Rhannodd un mamgu neu tadcu brofiad ei hwyres, gan danlinellu effaith gadarnhaol mae ein rhaglen yn cael ar gyfranogwyr iau:

"Mynychodd fy wyres eich gweithdy ar Adeiladu Gwefan heddiw a wnaeth mwynhau yn fawr iawn. Dywedodd ei fod yn addysgiadol iawn, yn ddiddorol, ac yn heriol tra'n dal i fod yn hwyl. Roedd yn meddwl ei fod wedi'i drefnu’n iawn a'i gyflwyno'n broffesiynol ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at y fodiwl wythnos nesaf. Gwnaeth ffrindiau gyda nifer o fyfyrwyr, llawer fel hi, sydd yn colli'r ysgogiad dysgu yn ystod y 6 wythnos o wyliau."

Diolch i'r holl gyfranogwyr a ymunodd â ni! Mae gennym ni lawer mwy yn digwydd eleni. Darganfyddwch fwy ar ein tudalen digwyddiadau sydd i ddod.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.