Join us this summer for our FREE Technocamps Advanced workshops tailored for ages 14-19! From mastering Canva to programming a LEGO robot, our workshops are packed with exciting opportunities to expand your digital skills! Whether you have some coding knowledge or just dipping your toes into the digital world, there’s something for all at Technocamps Advanced.
Dyddiau Mawrth a Iau
Yn Cychwyn Dydd Mawrth 30ain Gorffennaf
10yb - 12:30yp
Cofrestrwch trwy lenwi'r ffurflen hon.
Gweithdai:
- Canva + Adeiladu Gwefan
Darganfyddwch theori lliw a hanfodion dylunio, a chreu delweddau sy'n arddangos eich arddull unigryw. Dewch i ni ddod â'ch syniadau dylunio yn fyw yn y daith gyffrous hon o liwiau, creadigrwydd a hud Canva! Crewch eich gwefan eich hun heb unrhyw godio ac archwiliwch bŵer templedi y gellir eu haddasu ymlaen llaw, sy'n eich galluogi i greu gwefannau deniadol yn weledol sy'n adlewyrchu eich arddull unigryw.
- Modelu 3D am Gelf a Diwydiant
Mae Modelu 3D ym mhobman! Mewn ffilmiau, ffatrïoedd, a gemau fideo. Yn y sesiwn hon byddwn yn edrych ar hanfodion siapiau 3D, yn dysgu modelu, trin ac animeiddio mewn Blender, a hyd yn oed edrych ar OpenSCAD ar gyfer Argraffu 3D a diwydiant.
- Cyflwyniad i Dysgu Peirianyddol
Dysgwch am yr algorithmau sy'n rhoi caniatâd i beiriannau ddysgu. O wahaniaethu rhwng cathod a chwn, i ysgrifennu gerddi gwreiddiol (bron a bod); mae dysgu peirianyddol yn gwneud y cyfan. Sut mae ChatGPT yn ymddangos mor ddynol? Sut gall cyfrifiadur guro chwaraewyr gemau gorau dynoliaeth? Dysgwch am ddysgu atgyfnerthol, y broses o hyfforddi cyfrifiaduron i ddysgu trwy efelychu profiadau!
- Roboteg gyda Python
Bydd y sesiwn ymarferol hon yn eich cyflwyno i gysyniadau rhaglennu gan ddefnyddio robotiaid LEGO! Dysgwch a defnyddiwch yr iaith raglennu python i raglennu symudiadau, rhyngweithiadau a synwyryddion sylfaenol i lywio drysfa!
Mae’r gweithdai hyn am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.